26/07/22

Oriau Agor Estynedig yr Amgueddfa Genedlaethol

Dewch i fwynhau ac archwilio Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ystod ein horiau agor estynedig bob dydd Iau o 7 Gorffennaf – 1 Medi.

Bydd Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn agor ei drysau tan 9pm bob dydd Iau drwy gydol yr Haf.

Gydag oriau agor estyngedig, bydd mwy o gyfleoedd i chi:

  • Gyfarfod am goffi yn yr amgueddfa.
  •  Cymdeithasu gyda ffrindiau yn yr amgueddfa.
  •  Mwynhau y celf yn yr amgueddfa.
  • Crwydro drwy’r arddangosfeydd yn yr amgueddfa.
  •  Ddysgu am orffennol diwydiannol Cymru yn yr amgueddfa

Gall ymwelwyr hefyd roi cynnig ar wneud rhaffau ac argraffu llythrenwasg ar y wasg argraffu haearn hynaf yng Nghymru.

Mae mynediad AM DDIM i’r amgueddfa gyda gostyngiad o 10% i ymwelwyr â’r Amgueddfa yn The Swigg.

Eich Amgueddfa chi ydy Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, a’ch gofod chi i ymweld a’i fwynhau. Felly, dewch draw ar ddydd Iau a gwnewch y mwyaf o’ch ymweliad.

National Waterfront Museum Poster.jpg

Newyddion sy’n gysylltiedig

Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2022

Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Ur…

Plant mewn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu ‘prynu a’u gwerthu’, yn ôl y Comisiynydd Plant

Plant mewn gofal yn teimlo eu bod yn cael eu ‘pryn…