27/04/20

Adnoddau Newydd o’r Prosiect Paratoi

Mae cyfres newydd o adnoddau wedi cael eu cynhyrchu gan y Prosiect Paratoi i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio ar gyfer gadael gofal. Mae modd i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ddefnyddio’r adnoddau hyn er mwyn cefnogi pobl ifanc i bontio’n ddiogel o ofal, gan leihau perygl digartrefedd a sicrhau sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.

Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:

1. Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy;

2. Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion; a

3. Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol.

I gael rhagor o wybodaeth a mynediad i’r gyfres lawn o adnoddau, ewch i dudalen y Prosiect Paratoi ar ein gwefan: https://www.childreninwales.org.uk/cy/ein-gwaith/plant-syn-derbyn-gofal/prosiect-paratoi/getting-ready-project-resources/

 

Newyddion sy’n gysylltiedig

Neges gan Owen Evans, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru

Neges gan Owen Evans, Prif Weithredwr, Plant yng N…

Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Urdd 2022

Niferoedd uchaf erioed yn mynychu Eisteddfod yr Ur…

NSPCC yn lansio ymgyrch newydd i'r nifer cynnyddol o bobl ifanc sy'n chwilio gymorth oherwydd eu bod yn meddwl hunanladdiad

NSPCC yn lansio ymgyrch newydd i'r nifer cynnyddol…

Datganiad ar y Cyd: Pum ffordd o helpu plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel yn ystod y cyfyngiadau ar symud oherwydd y coronafeirws

Datganiad ar y Cyd: Pum ffordd o helpu plant a pho…