Mae Natalie yn goruchwylio Rhaglen Cymru Ifanc, menter Plant yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymwneud â gwrando ar bobl ifanc a mwyhau eu lleisiau wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol. Mae Natalie yn gyfrifol am reoli tîm o swyddogion cyfranogiad, goruchwylio datblygiad a chyflwyniad gweithgareddau, ac adrodd ar raglenni. Mae hi hefyd yn rheoli nifer o gontractau cyfranogiad ychwanegol.