Ghazala

Mae Ghazala yn Swyddog Datblygu ar gyfer Cymru Ifanc. Yn ei rôl, mae’n gweithio gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid i gyflwyno ymgynghoriadau, hwyluso gweithdai, a chynnal ymchwil ar faterion sydd o bwys i bobl ifanc. Mae ei gwaith yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys yn ystyrlon wrth lunio polisïau, gwasanaethau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae Ghazala hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi a phartneriaid i fwydo’r lleisiau hyn i mewn i strategaethau ac ymgyrchoedd cenedlaethol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd eiriolaeth a chydgynhyrchu a arweinir gan bobl ifanc.