Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Cymru Ifanc yw menter gyfranogiad Plant yng Nghymru, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy’n ymwneud â gwrando ar bobl ifanc a grymuso’u lleisiau. Mae ein gwaith yn seiliedig ar syniadau rhannu, hysbysu a newid.
Y nod yw sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i godi materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed gan y bobl sy’n gwneud penderfyniadau, swyddogion polisi, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion.
Mae gwaith Cymru Ifanc wedi’i seilio ar CCUHP a Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol Plant a Phobl Ifanc,
‘Cael Llais – Cael Dewis.’
I gael rhagor o wybodaeth am waith Cymru Ifanc, e-bostiwch: young.wales@childreninwales.org.uk
HAWLIAU PLANT
DARGANFOD MWY
SAFONAU CYFRANOGIAD CENEDLAETHOL
ASTUDIAETH ACHOS
BWRDD PROSIECT CYMRU IFANC
STAFF