
LGBTQ+ Pride Month: Pride and Prejudice
June is LGBTQ+ Pride month, and to celebrate we have planned a number of activities. on 28 June our training team will be holding a course entitled Pride and Prejudice: supporting LGBTQ+ Young People.
Eleni daeth y Prosiect Pris Tlodi Disgyblion, a gafodd ei ailenwi’n ddiweddarach yn Rhaglen Taclo Effaith Tlodi ar Addysg, i ben yn swyddogol.
Cychwynnodd y prosiect yn 2019, a chafodd ei gefnogi a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u hymrwymiad i fynd i’r afael â lefelau cynyddol o dlodi plant a gwella iechyd meddwl a llesiant emosiynol holl blant Cymru.
Y nod oedd creu adnoddau i’r holl ysgolion a gynhelir a lleoliadau addysg ar draws Cymru, er mwyn helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau bywyd dysgwyr o aelwydydd incwm isel, gan ddangos effaith tlodi ar fywydau beunyddiol plant.
Bydden nhw hefyd yn darparu atebion gweladwy, cost-effeithiol fyddai’n helpu i ddileu rhwystrau dysgu sy’n gysylltiedig â thlodi a gwella llesiant dysgwyr.
Er bod y rhaglen wedi dod i ben yn 2024, mae’r Canllawiau Pris Tlodi Disgyblion wedi cael eu diweddaru’n llwyr i adlewyrchu’r hinsawdd tlodi plant yng Nghymru ar hyn o bryd a rhoi cyngor ar hynny.
Mae’r adnoddau di-dâl hyn yn cynnig camau ac atebion ymarferol ar gyfer dull gweithredu ysgol gyfan fydd yn helpu i ddileu rhwystrau a ‘chost’ dysgu yn eich ysgol neu eich lleoliad trwy eich cefnogi i ystyried newid a’i roi ar waith.
Mae’r canllawiau ar-lein yn dal ar gael, bellach gydag adnoddau ychwanegol sy’n cynnwys:
Gallwch weld y canllawiau Pris Tlodi Disgyblion hefyd trwy ddefnyddio Hwb Llywodraeth Cymru, yma: Repository - Hwb
June is LGBTQ+ Pride month, and to celebrate we have planned a number of activities. on 28 June our training team will be holding a course entitled Pride and Prejudice: supporting LGBTQ+ Young People.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu canllawiau i ysgolion ynghylch sut a beth i’w addysgu i bobl ifanc 14 i 16 oed. Mae hwn yn gyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn arolwg byr a mynegi eu barn ar ddysgu 14-16. Y dyddiad cau ar gyfer hyn yw 8 Mai 2024.