Mae Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ym Mhen-y-bont wedi cael ei nodi fel “yr un sy’n perfformio orau o gryn dipyn” yng Nghymru a Lloegr gan brif arolygydd y carcharau. Bu’n canmol nifer y gweithgareddau sy’n cael eu darparu ar gyfer pobl ifanc 15-18 oed yn y Parc. Roedd adroddiad arolygiad blynyddol Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc yn cynnwys “canfyddiadau cadarnhaol gan mwyaf”, gyda gofal a gweithgaredd pwrpasol yn cael y radd uchaf, “da”, a diogelwch ac ailsefydlu yn “eitha da”.

Fodd bynnag, canfu nad oedd y gwasanaethau iechyd meddwl yn cyfateb i’r safonau cenedlaethol. Roedd y llywodraethwyr yn cytuno, ac yn sôn am yr anawsterau o ran sicrhau gwasanaethau iechyd meddwl gan y bwrdd iechyd lleol i’r preswylwyr, a bod angen llawer mwy o gefnogaeth ac arian ar wasanaethau iechyd meddwl, gan eu bod yn “gyfle i atal pobl rhag troseddu” adeg eu rhyddhau. Dywedodd Clarke na ddylai unrhyw ganfyddiadau negyddol dynnu oddi wrth y gwaith da sy’n cael ei wneud. Gallwch ddarllen erthygl lawn y BBC ar arolygiad blynyddol y sefydliad ​​yma.