
Mae amrywiaeth a chynhwysiant yn ganolog i gymdeithas heddiw ac mae'n bwysig ystyried sut mae'r gweithwyr proffesiynol a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda babanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru yn rhoi gwerthoedd clir ar waith.
Yn y rhifyn hwn rydym wrth ein bodd yn cynnwys cyfraniad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, a hoffem ddiolch yn gynnes iddi am gymryd yr amser i rannu ei mewnwelediadau gyda ni. Hefyd, i'n haelodau hirhoedlog a newydd sbon sy'n gweithio'n galed i roi gwerthoedd cynhwysol ar waith - boed drwy waith ieuenctid gwrth-hiliol, sicrhau mynediad cyfartal at brydau ysgol am ddim, cefnogi dysgwyr awtistig neu ymgorffori cydraddoldeb ac amrywiaeth mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar. Mae'r cyfraniadau hyn yn dangos, er bod llawer i'w wneud o hyd, fod ymrwymiad cryf a chynyddol i newid hefyd.
Mae'r rhifyn hwn hefyd yn cynnwys erthygl allweddol gan Plant yng Nghymru, o'r enw “Gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol teg.” Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yw sylfeini ein gwerthoedd yn Plant yng Nghymru ac er mwyn sicrhau ein bod yn byw yn ôl y gwerthoedd hyn, ac fel rhan o'n Strategaeth pum mlynedd, rydym wedi ymuno â Diverse Cymru, sydd wedi ein cynnwys yn eu Cynllun Cymhwysedd Diwylliannol. Darllenwch yr erthygl lawn yn y cylchgrawn i weld sut rydym yn gweithio ar y cyd i roi'r cynllun ar waith a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r plant a'r bobl ifanc rydym yn gweithio gyda nhw.
Hoffai Plant yng Nghymru ddiolch i'r holl gyfranwyr am gymryd yr amser i ysgrifennu eu herthyglau ac am eu hymroddiad yn y maes hwn.