Rydym wedi lansio ein maniffesto newydd – Pencampwyr dros Blant: Maniffesto i Fabanod, Plant a Phobl Ifanc – ac rydym yn annog pob plaid wleidyddol ac ymgeisydd i roi plant yn flaenllaw yn eu blaenoriaethau ar gyfer Etholiadau Senedd 2026.
Fel clymblaid o sefydliadau plant sy'n gweithio ledled Cymru, credwn fod yn rhaid i lesiant, hawliau a lleisiau babanod, plant a phobl ifanc fod wrth wraidd gwneud penderfyniadau gwleidyddol.
Wrth wraidd ein maniffesto mae addewid beiddgar ond syml, yn galw ar bob ymgeisydd i ymrwymo:
"Byddaf yn Bencampwr dros Blant yn ystod ac ar ôl etholiad Senedd 2026."
Rydym am weld pob plaid ac ymgeisydd yn camu ymlaen fel Pencampwyr cryf, ymroddedig dros Blant – nid yn unig yn ystod yr ymgyrch, ond drwy gydol tymor nesaf y Senedd. Mae hyn yn golygu sefyll dros hawliau a llesiant plant, a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed yn wirioneddol mewn penderfyniadau sy'n llunio eu bywydau.
Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i arweinwyr gwleidyddol ddangos dewrder, ysbrydoli cenhedlaeth, a helpu i adeiladu Cymru well a thecach i bob plentyn.
Dilynwch y sgwrs yn #PencampwyrDrosBlant
Ydych chi'n rhannu ein gweledigaeth? Rydym yn gwahodd sefydliadau aelodau a phartner i gymeradwyo'r maniffesto ac ymuno â ni i alw am i blant fod yn flaenoriaeth wleidyddol uchel. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod eu lleisiau wrth wraidd gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. I gymryd rhan, e-bostiwch info@childreninwales.org