Mae Plant yng Nghymru wedi bod yn ffodus i dderbyn cyllid gan y The Young Foundation a UK Research and Innovation ac Ymchwil i hyfforddi grŵp o bobl ifanc am ymchwil a'r technegau y bydd eu hangen arnynt i gynnal darn o ymchwil yn seiliedig ar yr amgylchedd. Daeth y bobl ifanc at ei gilydd am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 3 Mehefin.

Dysgon nhw am y prosiect, beth yw ymchwil a dulliau o ymchwilio a chael hwyl gyda phlasen a'i gilydd. Mae'r hyfforddiant yn cael ei ddarparu gan Elaine Speyer, Ymgynghorydd Ymchwil Annibynnol gyda chefnogaeth gan staff Plant yng Nghymru. Byddant yn cwblhau'r hyfforddiant ac yn datblygu eu cynnig ymchwil dros y ddau fis nesaf a'r gobaith yw y byddant yn llwyddo i gael cyllid i gynnal eu hymchwil gyda phobl ifanc ledled Cymru.

Maent wedi dewis y teitl:

"Cynaliadwyedd a chostau byw bywyd cynaliadwy. Pa bethau sy'n cael yn y ffordd o fod yn eco-gyfeillgar yn ôl cost, oedran, diwylliant, ac ardal Cymru mae pobl yn byw ynddi?"
 

Beth ddywedodd un o'r bobl ifanc:

"Rwyf wedi cael amser anhygoel!"

 

20230603_144643.jpg20230603_133441.jpg