Mae ein briffiad polisi diweddaraf yn myfyrio ar y gwaith diwygio a wnaed o ran Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac yn ystyried i ba raddau y llwyddwyd i gyflawni’r egwyddorion craidd a’r ymrwymiad i wrando ar farn, teimladau a dymuniadau plant, yn unol ag Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Daeth cyfnod gweithredu’r diwygiadau ADY i ben ym mis Awst 2025, ac mae hwn yn gyfle pwysig i ystyried pa mor effeithiol y cyflawnwyd yr egwyddorion craidd.
Rydyn ni’n amlinellu pwrpas diwygio ADY a’r hyn roedd bwriad i’w gyflawni, cyn adolygu profiadau ymarferol. Rydyn ni’n tynnu sylw at y gwaith a wnaed gan Claire Hathaway, o Plant yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar draws lleoliadau addysg er mwyn deall eu profiadau o ddiwygio ADY.
Darllen ein briffiad polisi diweddaraf
Darllen adroddiad llawn diwedd blwyddyn Claire