Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Maniffesto CCUHP 2026
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru wedi cyhoeddi ei flaenoriaethau cyn Etholiad y Senedd 2026, gan alw ar Lywodraeth nesaf Cymru i gryfhau hawliau plant yng Nghymru. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru, dan reolaeth Plant yng Nghymru, yn gynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd, sydd â'r dasg o fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) yng Nghymru.
Mae'r Grŵp Monitro yn eirioli dros ddeddfwriaeth newydd sy'n ymgorffori CCUHP yn llawn ac yn uniongyrchol yng nghyfraith Cymru, a fyddai'n adeiladu ar y ddeddfwriaeth bresennol ac yn debyg yn rhannol i ddeddfwriaeth ddiweddar a gyflwynwyd yn yr Alban. Byddai hyn yn darparu’r gallu cyfreithiol i orfodi hawliau plant yn unigol, yn ogystal â gwneud Asesiadau o Effaith ar Hawliau Plant yn ofyniad statudol a sicrhau bod pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu'n gydnaws â CCUHP wrth arfer swyddogaethau datganoledig.