Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn gynghrair genedlaethol o asiantaethau anllywodraethol ac academaidd, sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru. Sefydlwyd Grŵp Monitro CCUHP yn 2002 ac ers mis Mai 2016 mae wedi’i hwyluso gan Plant yng Nghymru. Mae’r Grŵp wedi gweithio gyda Phwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac wedi cyflwyno adroddiadau cymdeithas sifil i lywio Arholiadau Parti Gwladwriaeth y DU olynol.