A'r gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal sy’n pontio o ofal i fyw’n annibynnol
Mae’r prosiect Paratoi yn cyd-fynd â chynllun cyfredol Llywodraeth Cymru, ‘Pan fydda i’n Barod’. Mae’n darparu ymyriad dwysach sy’n ceisio adleisio’r gefnogaeth a’r arweiniad mae pobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal yn eu cael yng nghyd-destun teulu. Cyflwynir y prosiect gan Lleisiau o Ofal Cymru ar y cyd â Plant yng Nghymru, gyda chefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru o ‘Gronfa Arloesi Darpariaeth a Chefnogaeth Addas – Grant Atal Digartrefedd’.
Nodau’r prosiect yw:
- Darparu cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal (gan gynnwys ystyriaethau ynghylch gohirio gadael gofal a lleihau risg digartrefedd ac ansefydlogrwydd tai)
- Hwyluso cefnogaeth ddi-fwlch yn y gymuned, sy’n fwy cynaliadwy yn y tymor hir, heb ddibynnu ar gyllid yn y dyfodol i gyflawni canlyniadau cadarnhaol
- Grymuso pobl ifanc trwy wella’u gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal
- Meithrin gallu pobl ifanc i eiriol o blaid newid
- Meithrin gwydnwch a mecanweithiau sy’n cadw pobl ifanc yn ddiogel rhag digartrefedd a risgiau cysylltiedig, gan wella’u llesiant cyffredinol
- Cyfrannu at nod y gronfa, sef atal digartrefedd a chyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal
- Cynnwys pobl ifanc wrth gynllunio, cyflwyno a gwerthuso’r prosiect
Agwedd allweddol ar y prosiect oedd creu a darparu cyfres o adnoddau i wella gwybodaeth a dealltwriaeth pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal o’u hawliau a’r pethau y dylen nhw eu cael wrth gynllunio i adael gofal. Yn ogystal â darparu gweithdai cysylltiedig ar gyfer pobl ifanc, defnyddiwyd yr adnoddau hyn gan bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol i roi cefnogaeth i bobl ifanc bontio’n ddiogel o ofal. Bydd hyn yn lleihau risg digartrefedd ac yn cyflawni sefydlogrwydd tai ymhlith ymadawyr gofal.
Mae’r adnoddau’n canolbwyntio’n benodol ar feithrin gallu ariannol pobl ifanc, yn unol â’r themâu craidd a amlinellwyd yn nogfen Strategaeth Cynhwysiad Ariannol Llywodraeth Cymru:
- Mynediad at wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy
- Mynediad at wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion
- Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol
Adnoddau Pellach
Wants Vs Needs / Eisiau, Angen
General Wellbeing, Being Active / Awgrymiadau ar gyfer Llesiant Cyffredinol
Where does my money go? / Ble mae fy arian in mynd?
Where can I go to borrow money? / I ble galla i fynd i fenthyg arian?
Price Comparison - Supermarket / Cymharu Prisiau - Archfarchnad
Where might my money be coming from? / O ble gallair arian yma ddod?
Help with debt / Cymorth gyda Dyledion
Getting to work, college / Cyrraedd y Gwaith, Coleg
Food Shopping tips / Cynghorion Siopa am Fwyd
Finance Explanation / Cyllid Esboniad
Support from next step team / Cymorth gan dîm y Cam Nesa