Rhwydwaith iechyd meddwl babanod, plant a phobl ifanc

Cyswllt

Rachel Beddoe, Swyddog Gwybodaeth Ymchwil a Pholisi

rachel.beddoe@childreninwales.org.uk

Mae’r Rhwydwaith Iechyd Meddwl Babanod, Plant a Phobl Ifanc yn gynulliad o sefydliadau Trydydd Sector sy’n canolbwyntio ar Iechyd Meddwl y bobl hynny. Mae’n sefydlu llais torfol, Cymru gyfan i hyrwyddo a sbarduno newid, tra’n cysoni gwaith er mwyn galluogi dull gweithredu cyson a chydweithredol, a sicrhau bod anghenion iechyd meddwl pob baban, plentyn a pherson ifanc yn cael eu bodloni.


Nodau’r Rhwydwaith yw: 

  • Hyrwyddo hawliau babanod, plant a phobl ifanc ac eiriol ar eu rhan.  
  • Cynnig lle i drafod holl elfennau Iechyd Meddwl; gyda ffocws penodol ar le canolog babanod, plant a phobl ifanc.   
  • Cyfnewid gwybodaeth rhwng gweithwyr proffesiynol, ac ar draws rhwydweithiau, sy’n rhannu diddordeb mewn iechyd meddwl babanod, plant a phobl ifanc, gan sicrhau bod yr wybodaeth a rennir yn amlygu blaenoriaethau, arfer gorau a materion perthnasol.  
  • Cynrychioli profiadau bywyd babanod, plant a phobl ifanc er mwyn chwyddo eu llais ac amlygu eu hanghenion, fel bod llunwyr penderfyniadau a Chomisiynydd Plant Cymru yn eu clywed.
  • Hyrwyddo gwaith croestoriadol er mwyn sicrhau bod yr anfanteision, yr heriau a’r rhwystrau sy’n llesteirio iechyd meddwl cadarnhaol babanod, plant a phobl ifanc yn derbyn sylw.   
  • Hyrwyddo anghenion iechyd meddwl babanod, plant a phobl ifanc sydd ar y cyrion  
  • Rhoi sylw i stigma iechyd meddwl  

Aelodau’r Grŵp

Mae aelodau’r grŵp yn cynnwys sefydliadau trydydd sector sy’n canolbwyntio ar iechyd meddwl babanod, plant a phobl ifanc.