Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) ddarparu gwybodaeth am ystod o wasanaethau yn eich ardal.
Dyma’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl blant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol er mwyn cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch plant neu deuluoedd plant, rhwng 0 a 25 oed.
P’un a ydych chi’n ceisio trefnu gofal plant, eisiau gwybod mwy am addysg blynyddoedd cynnar a gweithgareddau ar ôl ysgol yn eich ardal, neu’n syml eisiau ychydig o gymorth ychwanegol i fod yn rhiant da, mae digon o help ar gael.
Cydweithio i ddylanwadu ar newid.
Grŵp o rieni sy'n ofalwyr gwirfoddol. Mae plant yn ymwneud â Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Addysg ac Iechyd.
Beth yw'r nod?
- Cyd-gynhyrchu a chyd-ddylunio gwasanaethau sy’n bodloni anghenion plant anabl o bob oed a’u teuluoedd.
- Tyfu, datblygu a grymuso ein haelodaeth i gael llais cryf ar y cyd ac i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.
- Darparu sianel gyfathrebu adeiladol rhwng rhiant-ofalwyr a phartneriaid strategol.