Adroddiadau ar Dlodi Plant

Mae Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd bellach ar agor

Cymerwch 15 munud i gwblhau'r arolwg.

Mae gennym 3 arolwg: 1 ar gyfer ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol, 1 ar gyfer pobl ifanc (12 – 25 oed) ac 1 ar gyfer plant (7 – 11 oed).

Bydd pob arolwg yn cau ar 22 Hydref 2026. ​​​

 

Arolwg ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ac Ymarferwyr

Arolwg ar gyfer Pobl Ifanc

Arolwg ar gyfer Plant


Bob blwyddyn, mae Plant yng Nghymru, mewn partneriaeth â Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ECPN), yn cynnal yr Arolygon Tlodi Plant a Theuluoedd. Yr ydym yn awr yn ein 8fed flwyddyn. 

Mae canfyddiadau’r arolygon hyn yn ein helpu i nodi a deall mwy am y materion presennol a’r effaith y mae tlodi yn ei chael ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Bydd eich profiadau a'ch safbwyntiau yn ein helpu i nodi a rhannu'r wybodaeth hon yn eang. 

Beth bynnag fo'ch rôl neu sector, os oes gennych gyfrifoldeb dros fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd, bydd y adroddiadau hyn o ddiddordeb i chi.

Diolch am eich cefnogaeth.