Ewch i'n tudalennau Plant a Phobl Ifanc i ddysgu mwy am Hawliau Plant, Cymru Ifanc a phrosiectau eraill y gall Plant a Phobl Ifanc gymryd rhan ynddynt.
Darganfyddwch fwy
Os ydych chi’n pryderu am blentyn neu berson ifanc yn eich teulu neu eich cymuned, gallwch chi ffonio 101 i roi gwybod am unrhyw faterion. Os ydych chi’n pryderu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl uniongyrchol o ddioddef niwed, ffoniwch 999 os gwelwch yn dda.
Os hoffech chi roi gwybod am bryder diogelu ynghylch plentyn neu berson ifanc, gallwch chi gysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol yn eich ardal. Mae’r wybodaeth gyswllt ar gael trwy’r byrddau diogelu lleol:
Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru Diogelu plant ac oedolion Cwm Taf Morgannwg Bwrdd Diogelu Diogelu Gwent Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru Byrddau Diogelu Bae’r Gorllewin
Os ydych chi eisiau deall mwy am ddiogelu plant ac oedolion ‘mewn perygl’ yng Nghymru, yna lawrlwythwch ap Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar eich dyfais a bydd gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar flaenau eich bysedd. Ewch i Diogelu Cymru am ragor o wybodaeth.
Os hoffech wybod mwy am sut mae Plant yng Nghymru yn ymateb i bryderon diogelu, mae polisi a gweithdrefnau Diogelu’r sefydliad i’w gweld isod.
Datganiad Polisi ar Ddiogelu
Adrodd pryder neu ddarparu gwybodaeth am gamwedd gan Plant yng Nghymru.
Polisi Chwythu'r Chwiban ac Adrodd am Ddigwyddiadau Difrifol Ffurf chwythu'r chwiban
Os bydd angen hyfforddiant diogelu arnoch chi neu eich cydweithwyr, cliciwch isod i weld yr ystod eang o gyrsiau diogelu sy’n cael eu darparu gan Plant yng Nghymru
Gweld ein cyrsiau