Rydym yn gweithredu ag Unplygrwydd: mae ein dull gweithredu wedi'i seilio ar hawliau plant a phobl ifanc. Byddwn yn gweithio i gyflawni ein cenhadaeth yn onest ac yn ddewr, ac ni fyddwn yn dal yn ôl rhag herio ar ran y rhai yr ydym yn ceisio mwyhau eu lleisiau.
Rydym yn Gwrando: rydyn ni'n eich clywed chi. Rydym yn ymboeni am yr hyn sydd gennych i'w ddweud. Byddwn yn ymateb drwy weithredu, lle gallwn.
Rydym yn Barchus: byddwn yn sicrhau ein bod yn gynhwysol, bod lle wrth ein bwrdd i’r rhai nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed mor aml ag eraill, a bod pawb yn cael dweud ei ddweud.
Rydym yn Dosturiol: byddwn yn llawn empathi wrth gyfathrebu; byddwn yn ceisio cydweithio ar bob cyfle; a byddwn yn sicrhau ein bod yn ystyried profiadau pobl eraill.