Hugh
Chief Executive Officer
As Chief Executive, Hugh is responsible for the organisation’s direction; leading, shaping and focussing CiW’s energies and activities to improve coordination across the sector and maximize the impact for children
Sean
Dirprwy Brif Weithredwr/Cyfarwyddwr Polisi
Fel aelod o’r Dîm Arweinyddiaeth Uwch, mae Sean yn arwain gwaith polisi’r sefydliad, ac yn gyfrifol am waith ym meysydd hawliau plant, tlodi plant, plant sydd â phrofiad o ofal a materion sy’n effeithio’n ehangach ar blant a phobl ifanc.
Stephanie
Cyfarwyddwr Cyllid a Gweithrediadau
Mae gan Stephanie gyfrifoldeb cyffredinol am reoli cyllideb, cyllid, adnoddau dynol a TG Plant yng Nghymru a hefyd yn gyfrifol am reoli ein gofod swyddfa.
Mae Stephanie hefyd yn goruchwylio gwaith y timau Cyllid ac Adnoddau Dynol.
Emily
Cyfarwyddwr Cyflawni
Mae Emily yn aelod o’r Tîm Arwain Uwch ac yn goruchwylio darpariaeth Rhaglenni Cyfranogiad Ieuenctid Plant yng Nghymru, darpariaeth Hyfforddiant, Diogelu, y gwasanaeth Mecanwaith Adolygu Annibynnol yn ogystal â nifer o Brosiectau a Phartneriaethau cydweithredol.
Kate T
Rheolwr Prosiectau a Phartneriaethau
Anna
Uwch Swyddog Polisi
Mae Anna yn gyfrifol am waith datblygu ym maes cymorth i deuluoedd, y blynyddoedd cynnar, gofal plant a hawliau plant.
Fatiha
Swyddog Datblygu - Cyswllt Rhieni Cymru
Mae Fatiha yn gyfrifol am waith datblygu ym maes llais rhieni a chyfranogiad rhieni wrth hyrwyddo hawliau plant.
Claire H
Swyddog Datblygu Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
.
Lisa
Swyddog Datblygu Ymgysylltu Ieuenctid - CBDC
Sophie
Gweithiwr Ymgysylltu Ieuenctid - CBDC
Abigail
Swyddog Datblygu
Rachel B
Swyddog Gwybodaeth Ymchwil a Pholisi
Bethan
Swyddog Datblygu, Prosiect Paratoi
Bethan yw swyddog datblygu’r Prosiect Paratoi sy’n gyfrifol am ddatblygu cyfres o adnoddau i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau ar ôl gadael gofal. Mae hi hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Natalie H
Intern Prosiect Paratoi
Natalie yw intern y Prosiect Paratoi sy’n gyfrifol am ddatblygu cyfres o adnoddau i gefnogi pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’u hawliau ar ôl gadael gofal. Mae Natalie hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o weithdai i bobl ifanc a gweithwyr proffesiynol.
Natalie L
Rheolwr Cymru Ifanc
Mae Natalie yn goruchwylio Rhaglen Cymru Ifanc, menter Plant yng Nghymru a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy’n ymwneud â gwrando ar bobl ifanc a mwyhau eu lleisiau wrth wneud penderfyniadau cenedlaethol. Mae Natalie yn gyfrifol am reoli tîm o swyddogion cyfranogiad, goruchwylio datblygiad a chyflwyniad gweithgareddau, ac adrodd ar raglenni. Mae hi hefyd yn rheoli nifer o gontractau cyfranogiad ychwanegol.
Rachel C
Uwch Swyddog Cymru Ifanc
Mae Rachel yn goruchwylio'r gwaith ymgynghori a'r byrddau a'r grwpiau Cynghori. Mae Rachel hefyd yn arwain ac yn darparu ar y byrddau a'r grwpiau Gofalwyr Ifanc ac Addysg a Hyfforddiant 16+.
Emily
Gweithiwr Ymgysylltu Cymru Ifanc
.
Frances
Swyddog Datblygu, Cyfranogiad
Ghazala
Swyddog Datblygu Cymru Ifanc
Mae Ghazala yn Swyddog Datblygu ar gyfer Cymru Ifanc. Yn ei rôl, mae’n gweithio gydag ysgolion a sefydliadau ieuenctid i gyflwyno ymgynghoriadau, hwyluso gweithdai, a chynnal ymchwil ar faterion sydd o bwys i bobl ifanc. Mae ei gwaith yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys yn ystyrlon wrth lunio polisïau, gwasanaethau a phenderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Mae Ghazala hefyd yn cydweithio â llunwyr polisi a phartneriaid i fwydo’r lleisiau hyn i mewn i strategaethau ac ymgyrchoedd cenedlaethol, gan atgyfnerthu pwysigrwydd eiriolaeth a chydgynhyrchu a arweinir gan bobl ifanc.
Russell
Swyddog Datblygu, Cyfranogiad
Russell yw arweinydd Cymru Ifanc ar Grŵp Rhanddeiliaid Ieuenctid Cenedlaethol MH&WH ac Arolygwyr Ifanc Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol ac mae’n hwyluso Rhwydweithiau Gweithwyr Cyfranogiad Cymru Gyfan. Mae Russell hefyd yn arwain y Rhwydwaith Llais Ieuenctid gan weithio ar y cyd â'r Comisiwn Etholiadol. Mae prosiectau eraill yn cynnwys cefnogi person ifanc sy'n aelod o Gyngor Plant Eurochild.
Thency
Swyddog Datblygu Cymru Ifanc
v
Claire
Rheolwr Hyfforddiant
Mae Claire yn gyfrifol am reoli'r Tîm Hyfforddi sy'n cyflwyno cyrsiau rhyngweithiol ar ystod eang o bynciau a lefelau gan gynnwys diogelu, hawliau plant, plant sy'n derbyn gofal a datblygiad plant.
Sian
Swyddog Hyfforddi
Mae Siân yn darparu cyrsiau hyfforddi Plant yng Nghymru, wedi'u hysbysebu, eu comisiynu a'u contractio ar ystod o bynciau. Mae ganddi arbenigedd penodol mewn hyfforddiant ar ddiogelu, hawliau plant, gwaith uniongyrchol gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi profi gwahanol fathau o gam-drin ac esgeulustod a chefnogi plant a phobl ifanc o grwpiau ymylol.
Natalie
Swyddog Hyfforddi
Mae Natalie yn hwyluso nifer o gyrsiau hyfforddi Plant yng Nghymru, wedi’u hysbysebu, eu comisiynu a’u contractio ac mae ganddi brofiad ymarferydd o hyfforddiant ar ddiogelu a hawliau plant yn y sectorau statudol a gwirfoddol.
Mae Natalie wedi gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys addysg, elusennau, a gwasanaethau plant. Mae Natalie yn athrawes gymwysedig ac mae ganddi arbenigedd arbennig mewn hwyluso grŵp a gweithio gyda gwirfoddolwyr.
Kelly
Cydlynydd Hyfforddiant
Kelly sy'n gyfrifol am gydlynu'r rhaglenni hyfforddi y mae Plant yng Nghymru yn eu cynnig.
Natasha
Rheolwr Cyfathrebu ac Aelodaeth
Louise
Cydlynydd Aelodaeth
Mae Louise yn gyfrifol am gefnogi aelodau Plant yng Nghymru i sicrhau eu bod yn derbyn eu hystod o fuddion. Mae hi hefyd yn cynorthwyo gyda marchnata'r sefydliad yn effeithiol a threfnu digwyddiadau a chynadleddau.
Emma
Swyddog Digwyddiadau
Mae Emma yn gyfrifol am ddatblygu, rheoli a gweithredu calendr digwyddiadau Plant yng Nghymru, gan gyflwyno digwyddiadau difyr i’n haelodau, yn ogystal â chefnogi’r gwaith o ddarparu digwyddiadau ar gyfer ein gwirfoddolwyr ifanc.
Carys
Swyddog Cyfathrebu a Marchnata
Claire
Rheolwr MAA
Mae Claire yn rheoli’r Mecanwaith Adolygu Annibynnol (MAA), gwasanaeth sy’n cael ei redeg ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu adolygiadau annibynnol o benderfyniadau asiantaethau ynghylch addasrwydd unigolion i faethu a mabwysiadu rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Rachel
Gweinyddwr IRM
Rachel yw gweinyddwr y Mecanwaith Adolygu Annibynnol (MAA), gwasanaeth sy’n cael ei redeg ar ran gweinidogion Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddarparu adolygiadau annibynnol o benderfyniadau asiantaethau ynghylch addasrwydd unigolion i faethu a mabwysiadu rhai o’r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Gareth
Cynorthwy-ydd Cyllid dan Hyfforddiant
Mae Gareth yn gyfrifol am brosesu cyfrifon ariannol Plant yng Nghymru ynghyd â rheoli’r system archebion prynu a chefnogi a chynorthwyo staff gyda phryniannau. Mae Gareth hefyd yn cefnogi gyda TG o ddydd i ddydd.
Caroline
Rheolwr Llywodraethu
Mae Caroline yn gyfrifol am faterion sy'n ymwneud â llywodraethu'r sefydliad. Mae hyn yn cynnwys Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, y Cyngor Polisi, ac adolygu a datblygu polisïau a gweithdrefnau.
Fiona
Gweinyddwr AD
Fiona sy'n gyfrifol am waith adnoddau dynol Plant yng Nghymru.
Susie
AD/Cynorthwy-ydd Llywodraethu
Mae Susie yn cefnogi swyddogaethau Adnoddau Dynol a Llywodraethu Plant yng Nghymru.