Datganiad Gweledigaeth

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau babanod, plant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni.
Datganiad Gweledigaeth

EIN GWELEDIGAETH

Adeiladu Cymru lle mae holl hawliau babanod, plant a phobl ifanc yn cael eu cyflawni.

EIN CENHADAETH

Rydym yn hwyluso ac ymgyrchu dros wireddu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn llawn yng Nghymru.

 

SUT RYDYM YN CYFLAWNI EIN CENHADAETH

 

GWERTHOEDD

Mae ein gwerthoedd, a ddatblygwyd ar y cyd â chydweithwyr a phobl ifanc, yn llywio ein hymddygiad ac yn rhoi fframwaith i ni ar gyfer gwneud penderfyniadau.​​​​​​​

EIN PWRPAS

 Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc yng Nghymru, yn eu cydlynu a’u mwyhau, ac yn cefnogi'r rhai sy'n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan, fel bod eu hawliau, eu hanghenion a'u dyheadau yn llywio penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae Plant yng Nghymru yn hwyluso ac yn ymgyrchu dros weithredu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn llawn yng Nghymru. Rydym yn gwrando ar leisiau plant a phobl ifanc, yn eu cydlynu a’u mwyhau. A ninnau’n gorff ambarél cenedlaethol ar gyfer pobl a sefydliadau sy'n gofalu am blant a phobl ifanc neu’n ymboeni amdanynt, rydym yn ganolbwynt unigryw i Gymru, gan adeiladu rhwydweithiau, capasiti a llwyfannau ar gyfer arbenigedd cyfunol ein haelodau. Rydym yn cefnogi ac yn annog y llywodraeth a sefydliadau sy'n wynebu plant i ddarparu polisïau, arferion a gwasanaethau teg sy'n adlewyrchu hawliau, anghenion a dyheadau babanod, plant a phobl ifanc.


Darllenwch ein strategaeth lawn ar gyfer 2025-2030 yma:

Strategaeth Plant yng Nghymru 2025-2030