Cyswllt Rhieni Cymru

Yr Hyn mae Rhieni'n ei Ddweud Wrthym: Y Sgwrs Fawr

I ddathlu Wythnos Magu Plant 2025, fe wnaethon ni gynnal gweminar amser cinio gyda Cyswllt Rhieni Cymru.

Fe wnaethon ni lansio canfyddiadau’r Sgwrs Fawr ac uchafbwyntiau’r gystadleuaeth ffotograffiaeth Mannau a Lleoedd. Clywodd y rhai oedd yn bresennol am y pethau sydd bwysicaf i deuluoedd, beth ddylai newid, a sut bydd mewnwelediad yn dylanwadu ar y camau nesaf i rieni ledled Cymru.

Adborth

'Diddorol iawn, gwych clywed bod lleisiau’r plant/bobl ifanc a’u rhieni yn cael gwrandawiad'

'Roedd yn hwylus ac yn hawdd mynd i’r sesiwn fer hon amser cinio – diolch yn fawr'

'Fe wnes i fwynhau’r gweminar yn fawr, a mwynhau bod yn rhan o’r ymgynghoriad hefyd'

Gweminar Llais Rhieni ar Draws y Pedair Gwlad

Yn y gweminar, buom yn archwilio themâu o’r pedair Gwlad; Gogledd Iwerddon, Cymru, yr Alban a Lloegr, ac ystyried yr hyn y mae rhieni yn ei ddweud wrthym am yr heriau y maent yn eu hwynebu, ynghyd â sesiwn holi-ac-ateb byr i drafod ffyrdd ymlaen ar gyfer cefnogi teuluoedd.

Cliciwch yma i weld y sleidiau o'r gweminar.

Cyswllt Rhieni Cymru - y daith hyd yn hyn....

Yn y weminar hon roedd cynrychiolwyr yn rhan o lansiad swyddogol hwb ar-lein newydd Plant yng Nghymru o'r enw Cyswllt Rhieni Cymru, a chlywed am rywfaint o'r gwaith cyffrous sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf i'w ddatblygu. Cafodd y cynrychiolwyr gyfle i gael golwg gyntaf ar y straeon lluniau a'r arddangosfa gelf, lle rhannodd cannoedd o rieni ledled Cymru eu mewnwelediad unigryw a chreadigol i 'Bywyd fel Rhiant yng Nghymru', gan ddangos y llawenydd a'r heriau o rhianta. Gellir cael mynediad i'r ganolfan ar-lein yma: Children in Wales | Hwb Cyswllt Rhieni Cymru

Adborth:

"Gweminar 5* gyda siaradwyr ysbrydoledig iawn"

"Llwyfan ac adnodd gwych i rieni a gweithwyr proffesiynol"

"Diolch am rannu eich gwaith gwych"