Ifanc, Digartref ac mewn Perygl: Cefnogi a Diogelu Pobl Ifanc Ddigartref

Mae’r cwrs undydd hwn yn archwilio achosion ac effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifanc, gan gynnwys y risgiau o gamfanteisio megis masnachu cyffuriau, ‘cuckooing’, a chamfanteisio rhywiol a throseddol ar blant. Mae’n ystyried tueddiadau cyfredol, deddfwriaeth yng Nghymru, a dulliau sy’n seiliedig ar drawma i gefnogi a diogelu pobl ifanc sy’n agored i niwed. Canlyniadau Dysgu: - Deall y ffactorau sy’n cyfrannu at ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc - Archwilio effaith trawma ac adfyd cynnar - Adnabod risgiau camfanteisio a strategaethau diogelu - Archwilio deddfwriaeth berthnasol ar dai a digartrefedd - Dysgu dulliau sy’n seiliedig ar hawliau i rymuso a chefnogi pobl ifanc Pwy ddylai fynychu: Yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr, rheolwyr a llunwyr polisïau ar draws gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, a sefydliadau’r trydydd sector.