Grŵp C Diogelu ar gyfer yr Arweinydd Diogelu Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr

Mae'r hyfforddiant cynhwysfawr deuddydd hwn wedi'i gynllunio ar gyfer yr Arweinwyr Diogelu Dynodedig ac Uwch Ymarferwyr sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod mesurau diogelu effeithiol ar waith a bod camau priodol yn cael eu cymryd pan fydd pryderon yn codi ynghylch plentyn. Manteision y cwrs: - Dyfnhau eich dealltwriaeth o gyfrifoldebau diogelu ar lefel strategol - Dysgu sut i reoli pryderon ac atgyfeiriadau yn effeithiol - Cryfhau diwylliant a chydymffurfiaeth diogelu eich sefydliad Pwy ddylai fynychu: Mae'r cwrs yn berthnasol i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys; ysgolion, gwasanaethau gofal plant, sefydliadau gwirfoddol, gwasanaethau'r sector preifat sy'n darparu gweithgareddau, dysgu a chefnogaeth i blant a theuluoedd. Mae wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer ymarferwyr a nodwyd fel Grŵp C yn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Hyfforddiant, Dysgu a Datblygu Diogelu, sy'n ymarfer yn weithredol o fewn rôl Arweinydd Diogelu Dynodedig.