Cefnogi Plant a Phobl Ifanc sy’n Ceisio Lloches ar Eu Pen Eu Hun
Mae’r cwrs undydd hwn yn rhoi’r wybodaeth a’r hyder i weithwyr proffesiynol gefnogi plant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches ar eu pen eu hun (UASC), gan sicrhau arferion gorau o ran diogelu a gofal.
Bydd cyfranogwyr yn:
- Deall diffiniad UASC a’r cyfrifoldebau diogelu perthnasol
- Archwilio Gweithdrefnau Diogelu Cymru, deddfwriaeth a chanllawiau
- Dysgu sut i adnabod risgiau, bregusrwydd ac ymatebion priodol
- Ennill mewnwelediad i effaith gorfforol a seicolegol trawma
- Datblygu sgiliau i feithrin ymddiriedaeth, gwydnwch, a defnyddio terminoleg briodol
- Gadael gyda mwy o hyder wrth ymgysylltu â UASC a’u cefnogi yn ymarferol
Pwy ddylai fynychu:
Yn ddelfrydol ar gyfer ymarferwyr ym meysydd iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy’n ceisio lloches.