Mae goruchwyliaeth effeithiol yn allweddol i gefnogi staff ac i wella canlyniadau sefydliadol. Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn helpu goruchwylwyr i feithrin hyder, deall eu cyfrifoldebau, ac i greu gofod diogel ac adfyfyriol ar gyfer twf proffesiynol.
Beth fyddwch yn ei ddysgu:
- Rôl a swyddogaethau goruchwyliaeth
- Adeiladu ymddiriedaeth a hwyluso ymarfer adfyfyriol
- Cydbwyso her gyda chefnogaeth
- Cyfrifoldebau goruchwylwyr a’r rhai sy’n derbyn goruchwyliaeth
- Rheoli goruchwyliaeth mewn timau integredig
- Sgiliau ymarferol ar gyfer rhoi a derbyn goruchwyliaeth
Pwy ddylai fynychu:
Staff sydd â chyfrifoldebau goruchwylio ar draws gofal cymdeithasol, addysg, a gwasanaethau cefnogi.