Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant: Hyrwyddo Arfer Parchus a Chynhwysol
Mae'r cwrs undydd hwn yn darparu cyflwyniad ymarferol a myfyriol i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn lleoliadau gofal a chymorth. Bydd cyfranogwyr yn archwilio deddfwriaeth allweddol, ymddygiadau priodol ac amhriodol, a strategaethau ar gyfer hyrwyddo arfer cynhwysol. Mae'r hyfforddiant yn canolbwyntio ar gydnabod rhagfarn anymwybodol, herio iaith a gweithredoedd gwahaniaethol a pharchu anghenion unigol. Mae hefyd yn cefnogi gweithwyr proffesiynol i greu amgylcheddau diogel a pharchus i gydweithwyr a defnyddwyr gwasanaeth.
Canlyniadau Dysgu:
- Diffinio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
- Deall deddfwriaeth cydraddoldeb berthnasol
- Nodi a herio ymddygiadau ac iaith amhriodol
- Cydnabod rhagfarn anymwybodol ac archwilio strategaethau i fynd i'r afael â hi
- Hyrwyddo arfer parchus a chynhwysol ar draws lleoliadau gofal
Pwy Ddylai Fynychu:
Addas ar gyfer rheolwyr gofal, staff gofal preswyl a gofal dyddiol, gweithwyr gofal cartref, therapyddion galwedigaethol, a gweithwyr proffesiynol o'r sectorau annibynnol a gwirfoddol.