Cheryl Martin

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad ym maes gofal cymdeithasol, mae Cheryl wedi ymgymryd â sawl rôl, gan gynnwys maethu, amddiffyn plant, troseddau ieuenctid, hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth, ynghyd â mynd i’r afael â cham-drin domestig. Mae ei dealltwriaeth o ecsbloetiaeth rywiol plant yn deillio o’i gwaith fel maethwraig, ei chyfraniad i faes troseddau ieuenctid, a’i gwaith gyda sefydliadau elusennol sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc. Mae Cheryl wedi bod yn hyfforddwraig gymwysedig ers dros 10 mlynedd, gan gynnig amrywiaeth o sesiynau hyfforddi i ystod eang o weithwyr proffesiynol ac ymarferwyr. Yn ogystal, mae hi’n gynghorydd ardystiedig ac yn gyfryngwraig annibynnol.