Mae Ceri yn Hyfforddwraig Gysylltiol i Plant yng Nghymru, gyda ymroddiad brwd i Hawliau Plant a Phobl Ifanc.
Cyn sefydlu Llais Rhieni yng Nghymru yn 2018, bu Ceri yn ddeietegydd arbenigol ac wedyn yn ymwneud ag ymchwil glinigol. Mae ei gwaith yn cwmpasu sawl sector, gyda ffocws ar gynnwys a lles plant a phobl ifanc niwroamrywiol a’u teuluoedd.
Fel cyd-Gadeirydd y Grŵp Ymgynghorol Gweinidogol ar Niwroamrywiaeth, mae Ceri wedi chwarae rhan allweddol wrth gyd-gynhyrchu Fframwaith System Gyfan NEST/NYTH, sydd bellach yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru ar draws gwasanaethau statudol.
Mae ei gallu i weithio ar draws systemau yn cyfrannu’n sylweddol at ei dealltwriaeth o sut i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc niwroamrywiol, gan atal canlyniadau negyddol.
Mae Ceri yn cynnig dau raglen hyfforddi: un sy’n codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth ac un arall sy’n canolbwyntio’n benodol ar ADHD.