Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig

Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig

Mae Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn helpu pobl ifanc i ddefnyddio’u hegni a’u hangerdd i newid y byd er gwell. 

Caiff Aelodau’r Senedd Ieuenctid eu hethol bob dwy flynedd gan bobl ifanc eraill yn eu hardal leol. Gall unrhyw berson ifanc 11-18 oed sefyll neu bleidleisio yn yr etholiad. Disgwylir cynnal yr etholiadau nesaf ym mis Mawrth 2022.

Mae Plant yng Nghymru’n gweithio gyda Fforymau Ieuenctid a Chynghorau Ieuenctid awdurdodau lleol, sy’n cynnal etholiadau ac yn helpu pobl ifanc i gymryd rhan yn lleol, yn ogystal ag ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych chi ddiddordeb yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig neu mewn dod yn Aelod ohoni, anfonwch neges e-bost at:  Chris.richards@childreninwales.org.uk