Safon Cyfranogiad Cenedlaethol

Safon Cyfranogiad Cenedlaethol

PS Logo CiW.svg

Defnyddir y saith o Safon Cyfranogiad Cenedlaethol i gefnogi’r rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, ac i sicrhau bod cyfranogiad ieuenctid yn cael ei ddatblygu’n briodol. Maen nhw’n sicrhau bod plant a phobl ifanc yn rhan o ddylunio, cyflwyno a gwerthuso gwasanaethau.

O dan y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol mae’r Siarter Genedlaethol, ac anogir pob gwasanaeth i symud at gyflawni hynny i ddechrau. Ar ôl cyflawni’r Siarter, gall gwasanaethau fynd ymlaen i weithio at gyflawni’r Nod Barcud Cyfranogiad Cenedlaethol llawn, sy’n cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. I wneud hynny, mae’n rhaid i wasanaethau gael eu hasesu a’u harchwilio, ac mae’n rhaid dangos eu bod wedi cyflawni pob un o’r saith Safon Genedlaethol. Unwaith byddan nhw wedi gwneud hynny, byddan nhw’n cael tystysgrif sy’n ddilys am bedair blynedd.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfranogiad plant a phobl ifanc, anfonwch e-bost atom.