Ein hanes

Ein hanes

Ers 1992, mae Plant yng Nghymru wedi bod yn sefydliad trosfwaol cenedlaethol ar gyfer unigolion a sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.   

Yn ystod y cyfnod hwn, chwaraeodd Plant yng Nghymru rôl allweddol wrth lobïo’n llwyddiannus dros sefydlu Comisiynydd Plant Cymru (Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i benodi Comisiynydd Plant), Gweinidog Plant (penodwyd y Gweinidog cyntaf yn 1997) ac ymgyrchu i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc ran yn Senedd Cymru.

Yn fwy diweddar, mae’r sefydliad wedi ehangu i gynnwys y fenter gyfranogi, Cymru Ifanc. Mae Cymru Ifanc yn gweithio gyda fforymau ieuenctid ar draws y wlad a llawer o sefydliadau eraill. Drwy’r rhain, bydd Plant yng Nghymru yn parhau i ddarparu llwyfan uniongyrchol er mwyn sicrhau bod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws y Deyrnas Unedig, yn Ewrop ac yn y Cenhedloedd Unedig ei hun.

Cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig arall yn 2020 pan basiwyd Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), oedd yn ddiweddglo llwyddiannus i ymgyrch hir.  

Mae’r sefydliad wedi chwarae rôl sylfaenol wrth gefnogi a gwella bywydau ein holl blant a phobl ifanc a’u teuluoedd ers ei ddechreuadau, dri degawd yn ôl. Ar y cyd â’n haelodau a’n partneriaid, rydym wedi dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a llywio ei gwaith yng nghyswllt materion allweddol megis Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mae’r angen am sicrhau hawliau plant, nodi eu hanghenion a chynnig atebion iddynt yn fwy nag erioed.