Mae cyrsiau’n cael eu trefnu ar amrediad o faterion amserol a’u cyflwyno trwy blatfformau ar-lein sy’n galluogi staff o bob rhan o Gymru i ddod ynghyd i ddysgu a rhannu materion ymarfer. Rydyn ni’n annog rhwydweithio a thrafodaethau ar ein holl gyrsiau
Y cyntaf i’r felin yw hi wrth gofrestru ar gyfer cyrsiau, a nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly rydyn ni’n eich cynghori i archebu lle yn gynnar.
Mae aelodau Plant yng Nghymru yn cael disgowntiau da ar gyfer ein cyrsiau hyfforddi, felly cliciwch yma i ddarllen rhagor am y cynllun aelodaeth: www.childreninwales.org.uk/membership
Pan fydd hi’n ddiogel i wneud hynny, byddwn yn ceisio ailddechrau darparu rhai cyrsiau wyneb yn wyneb mewn lleoliadau ar draws Cymru, fel y buon ni’n gwneud cyn pandemig Covid-19.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau wrth geisio cael mynediad i’n platfform hyfforddi neu archebu hyfforddiant, cysylltwch â ni ar 02920 342434 neu training@childreninwales.org.uk