Mae'r cwrs hyfforddi undydd rhad ac am ddim hwn wedi'i anelu at ymarferwyr sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant â phrofiad gofal mewn ystod o leoliadau gan gynnwys cymorth i deuluoedd, gwaith ieuenctid, gwaith chwarae, addysgu, gweithgareddau'r awyr agored a'r celfyddydau i gael gwell dealltwriaeth o'u hanghenion cymorth.
Fe fydd yr hyfforddiant wedi cael ei lywio gan brofiadau ac effaith y pandemig COVID-19 - sydd wrth gwrs wedi cael effaith sylweddol ar brofiad plant sy’n derbyn gofal a phlant â phrofiad gofal ers mis Mawrth 2020. Yn benodol, mi fydd ystyriaeth o wytnwch, yr effaith trawma a'r angen i ddefnyddio ymagweddau gwybodus trawma i gefnogi unigolion o ganlyniad. Bydd yr hyfforddiant yn archwilio amrywiaeth o sefyllfaoedd byw y gall ymarferwyr ddod ar eu traws, ystyr y derminoleg a ddefnyddir ac yn canolbwyntio ar ymatebion pobl ifanc am eu profiadau o fod ‘mewn gofal’.
Mae'r cwrs yma'n hwyl gydag ymarferion gafaelgar.
Fe fydd y cwrs yma'n amlinellu'r fframwaith damcaniaethol a deddfwraethol am gyfranogiad plant a phobl ifanc yng Nghymru gan gynnwys technegau y gellir eu defnyddio'n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc. Bydd mwyafrif y cwrs yn archwilio dulliau gallech eu defnyddio gyda phlant a phobl ifanc, ar sail unigolyn a grŵp, er mwyn eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau bod dydd, yn y ffordd ehangaf bosib.
Bydd cyfranogwyr yn teimlo eu bod wedi'u grymuso i ddefnyddio offer ymarferol i gefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc.
Bydd y bore yn canolbwyntio ar blant o dan 10 oed â'r prynhawn ar bobl ifanc hyd at 25 oed.