Mike Mainwaring circle.pngRhagfarn a Gwahaniaethu / Bwlio a Rhagfarn

Ysgrifennwyd gan Mike Mainwairing, Swyddog Hyfforddi, Plant yng Nghymru

Rhagfarn a Gwahaniaethu

Oherwydd ymdrechion y Mudiad 'Gay Liberation' yn y 70au a'r 80au, 'Act Up' a 'Out Rage' yn yr 80au a'r 90au a chreadigaeth 'Stonewall', mae pwysau parhaus wedi bod ar Lywodraethau o wahanol arlliwiau i greu hawliau cyfartal i bobl LHDTC +.  Ydym, rydym wedi dod yn bell gyda'r Ddeddf Cydraddoldeb, trwy wneud gwahaniaethu yn anghyfreithlon, priodasau hoyw ac wrth dynnu'r Adran 28 o'r llyfrau statudol (sy'n rhyddhau ein hysgolion i allu siarad am berthnasau gyda'r un rhyw).  Fodd bynnag, mae 74 sir yn y byd o hyd lle mae gwrywgydiaeth yn anghyfreithlon, ac 12 sir lle mae'n cael ei gosbi gyda'r gosb eithaf.
 

Bwlio a Rhagfarn

Fe fyddai'n anghywir i feddwl y byddai bod yn LHDTC+, gyda'r holl amddiffyniadau cyfreithiol ar waith yn cynnig bywyd gwell i holl bobl LHDTC+.

Ar Fai'r 20fed, fe adroddwyd bod bachgen 12 oed, Riley Hadley wedi cymryd ei fywyd ei hun ar ôl bwlio ddi-stop gan gyd-ddisgyblion.  Cafodd ei addysgu adref ac ni allodd chwarae yn y parc oherwydd bwlio.  Siaradodd eisoes a'i fam am feddwl ei fod yn hoffi bechgyn.  Yn ystod cwest yn Neuadd y Sir Exeter, datgelwyd digwyddiad fisoedd cyn bod Riley wedi bod yn cwestiynu ei rywioldeb, soniwyd am ddigwyddiadau hunan-niweidio cyn ac mae’n ymddangos bod y syniad o ddychwelyd yn ôl i’r ysgol wedi arwain at gymryd ei fywyd ei hun.

Mae astudiaeth annibynnol newydd gan 'Just Like Us' wedi darganfod bod pobl ifanc LHDTC+ dair gwaith yn fwy tebygol o hunan-niweidio a dwywaith yn fwy tebygol o ystyried cymryd bywyd eu hunan na'u cyfoedion nad ydynt yn LHDTC+.

Darganfuwyd hefyd fod bron saith o bob 10 o bobl ifanc LHDTC+ (68%) wedi delio gyda theimladau ac ystyriaeth hunanladdol, o gymharu â 29% o bobl ifanc nad ydyn nhw'n uniaethu fel rhan o'r gymuned.

Y bobl LHDTC+ fwyaf tebygol o fod wedi ystyried lladd eu hunan yw rhai sy'n lesbiaid gyda ffigwr o 74% a phobl drawsryweddol gyda ffigwr o 77%.

Yn ôl yr astudiaeth, mae bron traean (31%) o bobl ifanc LHDTC+ wedi hunan-niweidio, sy'n fwlch helaeth â'r 9% o bobl ifanc nad ydynt yn LHDTC+.

Mae pobl ifanc LHDTC+ Dduon hefyd yn dair gwaith mwy tebygol o ystyried hunanladdiad na phobl ifanc nad ydynt yn LHDTC+.  Datgelodd 89% o bobl ifanc Duon LHDTC+ eu bod wedi ystyried lladd ei hunain i gymharu â'r 67% o bobl ifanc gwyn LHDTC+.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am faterion mae pobl ifanc LHDTC+ yn wynebu, beth am fwcio eich hun lle ar ein hyfforddiant ar 28 Mehefin?  Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hunaniaeth, materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, terminoleg a'r gefnogaeth y gall pobl ifanc ei chynnig a ble i ddod o hyd i gymorth a chyngor arbenigol.