Hanes Pride

Mike Mainwaring circle.pngHanes Pride

Ysgrifennwyd gan Mike Mainwairing, Swyddog Hyfforddi, Plant Yng Nghymru

Roedd Terfysgoedd Stonewall yn drobwynt enfawr yn hanes LHDTC+. Fe allech chi ddadlau bod yna hanes cyn ac ar ôl Stonewall.  Yn syml mi oedd y lleoliadau a fu pobl hoyw yn cyfarfod yn anghyfreithlon yn America ac yn cael eu rheoli gan y Maffia. Roedd y Maffia yn warchod y sefydliadau hoyw rhag cael eu haflonyddu gan yr Heddlu ond wrth gwrs roedd rhaid i’r Heddlu edrych fel eu bod nhw’n actio yn erbyn pobl hoyw nawr ac yn y man.  Un noson, cafodd cwsmeriaid bar Stonewall ar Stryd Christopher yn Efrog Newydd ei droi drosodd gan yr Heddlu ond penderfynodd y ‘drag queens’, pobl drawsrywiol a’r hoywon ymladd yn ôl (dyma’r termau cafodd eu defnyddio ar y pryd).  Dechreuodd hyn dridiau o derfysgu a oedd wedi arwain yn y pen draw at ddadgriminaleiddio gwrywgydiaeth yn UDA.  Cafodd ei ddadgriminaleiddio ym Mhrydain ym 1967.  Dim ond dechreuad taith hir ac anodd yn unig ydoedd dros hawliau cyfartal i bobl LHDTC+ oedd dadgriminaleiddio.

Sefydlwyd ‘Pride’ i ddathlu Terfysgoedd Stonewall ac mae Mis Pride yn dathlu'r mis ym 1969 pan ddigwyddodd Terfysgoedd Stonewall.  Digwyddodd ar Fehefin yr 28ain.  Ymhlith y rhai a gymerodd ran, roedd Marsha P. Johnson a Sylvia Rivera, dwy fenyw ‘trans’ o liw ymladdodd dros hawliau LHDTC+.  Yn anffodus, nid oedd y gwaith caled a wnaeth rhai pobl ‘trans’ y ‘Gay Liberation’ o reidrwydd wedi golygu bod eu hamodau a'u hawliau wedi gwella bywydau pobl Trans.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am faterion mae pobl ifanc LHDTC+ yn wynebu, beth am fwcio eich hun lle ar ein hyfforddiant ar 28 Mehefin?  Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hunaniaeth, materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, terminoleg a'r gefnogaeth y gall pobl ifanc ei chynnig a ble i ddod o hyd i gymorth a chyngor arbenigol.