Mae modd teilwra cyrsiau, y cynnwys a’r amseriad, yn ôl eich gofynion penodol, a bydd Plant yng Nghymru yn darparu rhaglen unigryw, hyfforddwr arbenigol ac adnoddau i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus. Gall hyn fod yn ffordd gosteffeithiol o ddarparu pecyn hyfforddiant wedi’i deilwra i dîm cyfan o staff, mewn lle ac ar adeg sy’n ateb eu hanghenion orau.
Mae rhestr lawn o bynciau hyfforddiant i’w gweld ar ein platfform dysgu.
Dysgu mwy am y mathau o hyfforddiant gallwn ni eu darparu trwy edrych ar yr astudiaethau achos yma, neu trwy edrych ar ein hadborth hyfforddiant neu ein harchif hyfforddiant.
Os hoffech wneud ymholiad cwrs pwrpasol, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Os bydd angen cymorth arnoch chi, cysylltwch â 02920 342434 neu training@childreninwales.org.uk