Hyfforddiant wedi’i Achredu

Mae Plant yng Nghymru yn cynnig cyrsiau hyfforddiant wedi’u hachredu, ac Agored Cymru yw ein corff dyfarnu.

Pam dylwn i ddewis hyfforddiant wedi’i achredu?

Dysgwyr – Mae hwn yn gyfle i chi gadarnhau’r hyn a ddysgwyd yn dilyn digwyddiad hyfforddi. Bydd gofyn i chi wneud peth gwaith annibynnol yn dilyn elfen addysgu’r cwrs er mwyn derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol o’r wybodaeth, y sgiliau a’r ddealltwriaeth rydych wedi’u datblygu. Byddwch yn cael cymorth ac adborth gan aseswr cymwys yn y maes perthnasol. Cewch dystysgrif sydd â sicrwydd ansawdd gan gorff dyfarnu allanol i helpu i gefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus.

Cyflogwyr – Byddant yn hyderus bod yr hyfforddiant mae eu staff yn ei dderbyn wedi’i sicrhau o ran ansawdd ac y bydd eu staff, ar ôl cwblhau darn o waith a aseswyd, wedi cyflawni nifer o gredydau ar lefelau penodedig a gydnabyddir ledled y Deyrnas Unedig. Gellir defnyddio’r tystysgrifau ffurfiol i ddarparu tystiolaeth i reoleiddwyr, comisiynwyr a chyllidwyr ynghylch ymrwymiad eich sefydliad i ddatblygu staff a safonau sydd â sicrwydd ansawdd.