Tlodi Plant

Adroddiad Arolwg Tlodi Plant a Theuluoedd: Oes gennych chi funud neu ddwy?

Mae ein Harolwg Tlodi Plant a Theuluoedd yn cael ei ateb gan ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol sydd ar y cyd yn gweithio gydag isafswm o 110,000 o deuluoedd a’u plant ledled Cymru.

Bob blwyddyn rydyn ni’n cynhyrchu adroddiad ar sail y canfyddiadau er mwyn deall sut maen nhw’n cael eu defnyddio. Mae eich adborth yn bwysig iawn i ni, ac i safon yr adroddiad. Ein nod yw gwneud yr adroddiad mor ddefnyddiol â phosibl, a bydd eich adborth yn helpu i lywio hynny. Gofynnwn i chi roi eich adborth a’ch meddyliau. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 28% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Dywedir bod plant yn byw mewn tlodi os ydyn nhw’n byw mewn teuluoedd sydd ag incwm sy’n is na 60% o’r incwm canolrif. Gall tlodi gael effaith andwyol ar gyfleoedd plentyn mewn bywyd, trwy gael effaith negyddol ar eu haddysg, eu hiechyd a’u llesiant cyffredinol. Mae’n bosib bydd effaith negyddol ar eu rhagolygon tai a chyflogaeth i’r dyfodol hefyd.

Mae Plant yng Nghymru yn parhau i weithio i atal a lleihau lefelau tlodi plant, a lliniaru’r effaith ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd.

Mae gwaith Plant yng Nghymru yn y maes hwn yn cynnwys:

  • Cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, sef y gynghrair genedlaethol ar gyfer taclo tlodi plant yng Nghymru
  • Ymgysylltu’n rhagweithiol â Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a rhanddeiliaid allanol eraill yng Nghymru, gan gynnwys trwy ein hymwneud â gweithgorau strategol
  • Rheoli prosiectau sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol ac yn datblygu capasiti sefydliadau i gymryd camau i gefnogi plant o deuluoedd incwm isel
  • Gweithio gyda’n haelod sefydliadau i gynhyrchu adroddiadau a chyhoeddiadau, gan gynnwys ein Harolwg Blynyddol o Dlodi Plant yng Nghymru
  • Cyflwyno digwyddiadau tlodi plant cenedlaethol a rhanbarthol
  • Cyflwyno hyfforddiant i weithwyr proffesiynol ar effaith tlodi plant yng Nghymru
  • Ymgyrch i ddileu tlodi plant ar lefel y Deyrnas Unedig