Yn 2016, cyflwynodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn eu Sylwadau Terfynol ynghylch cynnydd y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig o ran cydymffurfio â’r egwyddorion a’r safonau a geir yn CCUHP. Llywiwyd y Sylwadau Terfynol gan adroddiad y Parti Gwladol a’r adroddiad cysgodol a gyflwynwyd gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru, ac maent yn darparu cyfres o gamau gweithredu y dylai llywodraethau eu cymryd i hybu hawliau plant yn eu gwlad.  Cyn y cylch nesaf o adrodd, nododd Grŵp Monitro CCUHP Cymru nifer o feysydd thematig ac ystyried i ba raddau mae cyfraith, polisi ac ymarfer yng Nghymru wedi symud ymlaen ers 2016 yn unol ag argymhellion y CU.  Dyna a wneir yn y Papur Briffio Thematig hwn yng nghyswllt Chwarae a Hamdden.