Mae Plant yng Nghymru, ar y cyd ag elusennau plant cenedlaethol blaenllaw yng Nghymru, wedi lansio maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd 2021. Nod y maniffesto yw sicrhau bod hawliau plant yn ganolog ac yn cael blaenoriaeth gan holl bleidiau gwleidyddol Cymru.

Rydyn ni’n galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i’r canlynol;

  • Gwneud plant yn flaenoriaeth
  • Gweld plant fel rhan o’r ateb wrth ymadfer wedi COVID-19
  • Gwrando ar blant a rhoi sylw i beth maen nhw’n ei ddweud wrthych chi
  • Cefnogi plant trwy fuddsoddi yn y gwasanaethau maen nhw’n eu defnyddio
  • Gwerthfawrogi plant trwy flaenoriaethu ymyrraeth gynnar, ataliaeth a mesurau cymorth i deuluoedd

Nod ein galwadau yw sicrhau bod;

  • Pob plentyn yn cael mynediad i’w HAWLIAU
  • Pob plentyn yn cael eu DIOGELU a’u HAMDDIFFYN
  • Dim un plentyn yn profi TLODI
  • Pob plentyn yn cael IECHYD A LLESIANT EMOSIYNOL cadarnhaol

Mae’r maniffesto yn cyflwyno pedwar maes blaenoriaeth, gan gynnwys cryfhau strwythurau cenedlaethol yn y Llywodraeth a’r Senedd, Cryfhau strwythurau lleol a rhanbarthol, Buddsoddi mewn Plant a’r ymateb i Covid-19.

Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru:

“Mae’r penderfyniadau a wnaed mewn ymateb i COVID-19 wedi cael effaith ddwys ar blant, ond rydyn ni’n gwybod bod llawer yn wynebu rhwystrau sylweddol cyn dyfodiad y pandemig. Wrth i bleidiau gwleidyddol baratoi i gyhoeddi eu blaenoriaethau i’r etholiad yn ystod y misoedd nesaf, rydyn ni’n gofyn iddyn nhw sicrhau eu bod nhw’n rhoi plant yn gyntaf, ac yn creu Cymru sy’n wirioneddol addas ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, beth bynnag yw eu cefndir, eu sefyllfa neu eu priodweddau. Wrth i bobl ifanc 16 ac 17 oed gael yr hawl i bleidleisio am y tro cyntaf erioed, bydd eu materion nhw gymaint â hynny’n anoddach eu hanwybyddu. Rydyn ni’n galw ar arweinwyr pob plaid i wneud plant yn ganolog i’r Llywodraeth nesaf, a chyflawni’r 4 maes blaenoriaeth rydyn ni wedi’u cyflwyno gyda’n partneriaid yn y maniffesto ar y cyd a gyhoeddwyd heddi”

Mae’r maniffesto llawn ar gael ar wefan Plant yng Nghymru yn Gymraeg a Saesneg