Mae NSPCC Cymru wedi adrodd bod cynnydd yn nifer y plant yng Nghymru sy’n derbyn cwnsela ar gyfer meddyliau a theimladau ynghylch hunanladdiad, ac mae’r nifer wedi codi dros draean (38%) mewn pedair blynedd. Rhwng 2018 a 2019, cafodd cyfanswm o 850 o bobl ifanc o Gymru help gan wasanaeth Childline di-dâl yr elusen, oherwydd eu bod yn brwydro yn erbyn meddwl am hunanladdiad. Mae hyn wedi codi o 614 yn 2015/16. Roedd y rhan fwyaf ohonynt yn eu harddegau, ond bu cynnydd o 87% hefyd yn nifer y plant o dan 11 ar draws y Deyrnas Unedig sydd wedi derbyn help ers 2015/16.

Mewn ymateb i’r pryder sy’n deillio o’r ystadegau hyn, mae’r NSPCC wedi lansio ymgyrch newydd o’r enw – “KIDS In Real Life – urging the public to help save a child’s life, in real life”. Mae’r NSPCC yn galw ar bobl i ddangos eu cefnogaeth trwy Addo Amddiffyn a gwneud cyfraniad (‘Pledge to Protect’) at wasanaethau hanfodol fel Childline, sydd yno ar gyfer plant ac arddegwyr pan fyddan nhw heb unman arall i droi.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, a sut gallwch chi fod yn rhan ohoni yma:

 KIDS In Real Life - urging the public to help save a child's life, in real life