Mae Plant yng Nghymru wedi rhyddhau gêm newydd wedi’i bwriadu ar gyfer plant a phobl ifanc sydd a phrofiad o ofal.

Mae’n gêm rolio’r dis syml lle gall plant a phobl ifanc ddweud eu dweud ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, gofyn cwestiynau a chymryd rhan yn y gwaith o gynllunio gofal a chymorth.  Nid yw i fod i gymryd gormod o amser – mae’n bosibl chwarae mewn 5 munud neu 30 munud!  Mae’n bosibl ei defnyddio yn ystod ymweliad neu gyfarfod i dorri’r iâ, cael hwyl a dechrau sgwrs.

Chwarae a hawliau plant – pam mae chwarae mor bwysig?

● Mae chwarae’n helpu plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel, yn iach ac yn hapus
● Mae’n rhoi cyfleoedd iddyn nhw archwilio a deall eu diwylliant
● Mae’n gynhwysol ac yn chwalu rhwystrau

Mae gan blant hawl i chwarae o dan CCUHP (Erthygl 31), mae ganddyn nhw hefyd hawl i ddweud eu dweud wrth wneud penderfyniadau a chael rhywun yn gwrando arnyn nhw (Erthygl 12). Mae’r gêm hon yn pontio’r bwlch rhwng y ddau ac yn gwahodd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i wneud pethau’n wahanol!

Mae cydweithredu a gweithio mewn partneriaeth yn un o egwyddorion allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Nawr yn fwy nag erioed, dylid cynnwys lleisiau plant a phobl ifanc wrth gynllunio gofal a chymorth.

Cewch hyd i’r gêm a’r cyfarwyddiadau yma:

Fy Mywyd ar y Trywydd iawn Cymraeg
My Life on Track Saesneg