Bu Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, yn helpu i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Llyfr eleni trwy gynnal sesiwn stori yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Bu disgyblion o Ysgol Gatholig Sant Padarn yn gwrando’n astud wrth i’r Prif Weinidog ddarllen rhannau o lyfr enwog hanesion chwedlonol Cymru, y Mabinogi, yn Gymraeg a Saesneg.

Roedd hyn yn rhan o ymgyrch ‘rhannu stori’ Diwrnod Byd-eang y Llyfr, sy’n ceisio tanio dychymyg plant a gwneud rhannu stori’n arfer am oes. Bu llawer o ysgolion ledled Cymru yn rhan o’r gweithgaredd yma i ddathlu Diwrnod Byd-eang y Llyfr.