Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn cyhoeddi adroddiad…
This year marked the start of the journey towards the next examination of the governmentäó»s progress in implementing the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC).
Mae Plant yng Nghymru yn aelod o Dileu Digartrefedd Ieuenctid (End Youth Homelessness) Cymru.
Yn ôl yr ystadegau swyddogol, mae digartrefedd yn effeithio ar bron 8,000 o bobl ifanc y flwyddyn yng Nghymru. Mae Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru (EYHC) yn gynghrair o sefydliadau, o dan arweiniad Llamau, sydd wedi addo mynd i’r afael â’r mater hwn a sicrhau bod digartrefedd ieuenctid yn ddigwyddiad prin a byr, nad yw’n rheolaidd. I gyflawni’r nod hwnnw, rhaid i ni sicrhau bod ein systemau yn gweithio i bawb ac nad oes neb yn cael ei anghofio. I’r diben hwnnw, cafodd astudiaeth ymchwil o dan arweiniad ieuenctid ei lansio’n ddiweddar i edrych ar y cysylltiadau rhwng y system ofal a digartrefedd ieuenctid. Gwyddom fod pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu gorgynrychioli’n anghymesur yn y system ddigartrefedd ac mae adroddiad Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau: Digartrefedd ymhlith Pobl Ifanc â Phrofiad o Ofal yng Nghymru yn rhoi rhai atebion clir i ni i’r broblem hirfaith hon. Mae’r adroddiad yn rhannu meddyliau pobl ifanc ddigartref ledled Cymru am sut mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu siomi gan y systemau a ddylai fod yn eu hamddiffyn. Yn fwyaf pwysig, mae’r bobl ifanc hyn wedi rhoi’r syniadau sydd eu hangen arnom i ddatrys y problemau hyn. Gwnaed gwaith sylweddol yn barod yng Nghymru ar fater digartrefedd ymhlith pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal – yn wir, mae’r gweithiau blaenorol ar y mater yn rhwystredig o swmpus, ond mae’r broblem yn parhau heddiw. Er bod cynnydd wedi’i wneud, yn sicr, dros y blynyddoedd, mae’n amlwg bod mwy o le i wella o hyd. Nid yw hynny’n golygu bod y gwaith blaenorol ar y mater yn amherthnasol. I’r gwrthwyneb: nod dogfen Barnardo’s ‘Fframwaith Llety a Chymorth i Ymadawyr Gofal yng Nghymru’ (2016), er enghraifft, yw helpu sefydliadau sy’n gweithio i gael llety i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, ac mae’n amlwg yn offeryn gwerthfawr iawn os bydd awdurdodau lleol yn ei ddefnyddio i helpu i gydlynu eu gwahanol wasanaethau. Un o’r prif argymhellion yn ein hadroddiad oedd bod angen ailedrych ar y mater hwn. Felly, a oedd wir angen rhagor o waith ynghylch profiad o ofal a digartrefedd ieuenctid? Oedd yw’r ateb, gwaetha’r modd. Yn ein gwaith ymchwil, gwelsom fod llawer o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn pontio’n llwyddiannus rhwng gofal a byw yn annibynnol, ond mae rhai yn parhau i syrthio drwy’r craciau, gwaetha’r modd, ac yn profi trawma digartrefedd. Mae EYHC yn bodoli yn bennaf i chwyddo lleisiau pobl ifanc, yn enwedig yn ein gwaith ymchwil. Dechreuson ni drwy gyd-ddylunio’r gwaith ymchwil a threfnu bod y cyfweliadau’n cael eu cynnal gan chwech o ymchwilwyr cymheiriaid sydd â phrofiad o ofal ac a fu’n ddigartref eu hunain. Cynhaliwyd cyfweliadau â 27 o bobl ifanc ar draws Cymru, rhwng Hydref 2019 a Mawrth 2020. Roedd y cyfranogwyr yn cael neu wedi cael profiad o’r mathau gwaethaf o ddigartrefedd, gan gynnwys bod yn ddigartref ac ar y stryd, cysgu ar y llawr neu aros mewn llety brys arall anaddas. Esboniodd Lewys, sy’n 20 oed, ei brofiad ef o fod yn ddigartref ac ar y stryd:
“Roedd hi’n ganol gaeaf, roedden ni’n eistedd yn y babell yma ac roedd hi fel bola buwch. Wnes i ddim sylweddoli mod i wedi codi’r babell ar bwys ymyl y ffordd a buodd hi’n bwrw hen wragedd a ffyn yn y nos ac felly roedd y babell a phopeth yn wlyb stecs. Wnes i ddihuno a doeddwn i braidd yn gallu anadlu, roeddwn i mor oer ac yn wlyb at y croen”.
Y profiadau sy’n cael eu rhannu gan bobl ifanc fel Lewys sy’n gyrru ein gwaith ar y mater hwn. Maen nhw’n ein hatgoffa am ein cyfrifoldeb ar y cyd dros sicrhau bod pobl ifanc sydd mewn gofal yn cael bargen deg mewn bywyd. Os yw person ifanc fel Lewys sydd â phrofiad o dderbyn gofal a bod yn ddigartref ac ar y stryd yn barod i rannu’i drawma er mwyn gwella bywydau pobl ifanc eraill, mae cyfrifoldeb arnom ni i wrando arno a gweithredu ar yr hyn mae’n gofyn amdano.
Un o’r pethau mawr roedd pobl ifanc fel Lewys yn gofyn amdano oedd ychydig o gymorth a noddfa pan fydd bywyd yn mynd o chwith. I’r rhan fwyaf ohonom, sydd heb dyfu i fyny mewn gofal, os oedd perthynas yn chwalu neu rwystr arall mawr o’n blaen pan oeddem yn ifanc, roedd modd i ni fynd yn ôl adref, i gael ein gosod yn ôl ar ein traed a chael ein gwynt atom. Nid yw’r dewis hwn ar gael i bobl ifanc sydd wedi gadael gofal. O’r herwydd, rydym wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried ‘hawl i ddychwelyd i ofal’ ar gyfer pobl ifanc.
Wrth wneud yr argymhellion hyn, rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r cyd-destun a’r pwysau sydd ar wasanaethau a pha mor gyflym mae lleoliadau maethu yn cael eu llenwi, ond mae’n rhaid i ni wneud mwy dros bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Rhaid iddyn nhw fod yn flaenoriaeth i ni – yn aml iawn does ganddyn nhw neb arall.
Daeth themâu eang i’r golwg yn y gwaith – heriau iechyd meddwl (a heriau mwy eto o ran cael mynediad at gymorth), unigrwydd, arwahanrwydd. Wrth ddarllen yr adroddiad, cawn y teimlad uwchlaw popeth arall fod cymdeithas wedi newid, ond nad yw ein systemau gofal a thai wedi mynd yn ddigon pell bob amser i adlewyrchu’r newidiadau hyn. Yn y Deyrnas Unedig, 25 bellach yw cyfartaledd oed pobl ifanc sy’n gadael cartref, ond mae disgwyl i bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal adael cartref a hwythau ond yn 18 oed (gan dderbyn bod cynllun Pan fydda i’n Barod yn cynnig cyfle i ohirio hynny). Mae’r ymchwil yn disgrifio digwyddiad ‘ymyl y dibyn’ pan fydd y rhan fwyaf o bobl ifanc yn gorfod gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 18 oed neu oddeutu hynny p’un a ydyn nhw’n teimlo’n barod ac wedi’u paratoi ar gyfer hynny neu beidio. Roedd Alys, 22 oed, yn crynhoi profiadau llawer o bobl ifanc:
“Doeddwn i ddim yn barod i adael fy hostel ond roedd rhaid i mi fynd oherwydd fy oed. Doeddwn i ddim yn barod. Rwy’n cael gweithiwr cymdeithasol, sy’n 24 oed ac yn dal i fyw gartref gyda’i mam yn gefn iddi, yn dweud bod rhaid i mi fyw ar fy mhen fy hun. Dim diolch, blodyn. Cer adre at dy fam a gad i mi aros fan hyn”
Mae dwsinau o straeon eraill tebyg yn britho adroddiad Peidiwch â Gadael i mi Syrthio drwy’r Craciau … Mae llawer ohonyn nhw’n gwbl ingol. Nid ysgrifennu adroddiad ingol oedd ein bwriad, ond mae’n adlewyrchu’r profiadau y cawson ni’r fraint o glywed amdanyn nhw gan y bobl ifanc. Cawson nhw eu rhannu er mwyn i ni eu mwyhau a gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Dywedodd un person ifanc “does dim ots beth rwy’n ei ddweud, fydd neb yn gwrando arna i”. Fel cyfwelydd, edrychais i fyw ei lygaid a dweud “bydd yr adroddiad yn gwneud gwahaniaeth. Fydd e ddim yn eistedd mewn llyfrgell, bydd e’n gwneud gwahaniaeth”. Aeth y 27 o bobl ifanc ofalgar, garedig a rhyfeddol hyn ati i rannu eu trawma er mwyn ein harfogi ni â’r wybodaeth i atal pobl ifanc eraill rhag diodde’r un profiadau. Roedd yr 13 o argymhellion yn yr adroddiad hwn yn deillio o’r profiadau trawmatig hynny ac mae gennym gyfrifoldeb i’r rhai a fu’n ein helpu i’w llywio i sicrhau eu bod nhw’n cael effaith.
Mae Plant yng Nghymru yn darparu adnoddau a gweithdai ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wrth iddyn nhw bontio rhwng gofal ac annibyniaeth fel rhan o’r Prosiect Paratoi. Rydyn ni’n falch iawn o fod yn rhan o gynghrair sefydliadau Dileu Digartrefedd Ieuenctid Cymru (EYHC) a hoffem ddiolch i Jemma Bridgeman, EYHC, am ysgrifennu’r erthygl hon.
This year marked the start of the journey towards the next examination of the governmentäó»s progress in implementing the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC).
Ar 21 Ionawr 2020, pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yng ngham 3 gan y Senedd.