Yn unol â chyngor y Llywodraeth a Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae holl staff Plant yng Nghymru yn gweithio o’u cartrefi hyd nes yr hysbysir fel arall, ac mae’r swyddfeydd yng Nghaerdydd a Bangor ar gau. Serch hynny, rydyn ni’n dal i weithio.

Os oes gennych chi Ymholiadau Cyffredinol, gallwch chi gysylltu â ni ar info@childreninwales.org.uk.  Gallwch chi gysylltu ag aelodau penodol o staff yn uniongyrchol trwy eu cyfeiriadau e-bost sydd i’w gweld yma https://www.childreninwales.org.uk/aboutus/staff/

Er mwyn diogelu iechyd a llesiant y staff, plant a phobl ifanc, a phawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau, mae Plant yng Nghymru wedi penderfynu gohirio ein holl ddigwyddiadau, cynadleddau a chyrsiau hyfforddi agored a gynlluniwyd, hyd nes yr hysbysir fel arall. Byddwn yn ail-hysbysebu cyn gynted ag y gallwn ni wneud trefniadau newydd.