Parent Talk Cymru yn lansio gyda chymorth 1:1 ar gael i rieni yn Gymraeg

Mae Gweithredu dros Blant wedi lansio ei wasanaeth cyngor ar fagu plant ar-lein Parent Talk yng Nghymru gyda mynediad at staff sy’n siarad Cymraeg i gael cyngor a chefnogaeth 1:1. Mae Parent Talk yn cysylltu rhieni a gofalwyr â hyfforddwyr magu plant hyfforddedig drwy ei wasanaeth sgwrsio ar-lein cyfrinachol, un-i-un, sy’n rhoi rhywle i rieni droi am gymorth emosiynol a chyngor ymarferol am ddim.

Lansiwyd y gwasanaeth newydd, sy’n cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Cymorth Strategol Elusennau Cenedlaethol yr Adran Addysg a’r Swyddfa Gartref ar gyfer Plant Agored i Niwed, ar ôl i’r elusen weld cynnydd o 415% yn nhri mis cyntaf y cyfnod clo yn y galw am ei wasanaeth cyngor digidol ar fagu plant ledled y DU.  Tanlinellwyd y galw am y gwasanaeth gan arolwg YouGov o dros 2000 o rieni gan Gweithredu dros Blant ym mis Mehefin yn datgelu effaith ddinistriol pandemig y coronafeirws ar filiynau o deuluoedd ledled Prydain, gyda rhieni a phlant yn cael trafferth ymdopi â materion sy’n cael eu hachosi gan fywyd yn ystod y cyfnod clo.

Ar ôl misoedd o gyfyngiadau symud, dywedodd dros draean o rieni yng Nghymru (38%) fod eu plant yn teimlo’n unig ac yn ynysig, gyda miliynau ledled y DU hefyd yn dweud eu bod yn bryderus, neu’n methu cysgu. Roedd hyn yn golygu bod bron i hanner (47%) y rhieni hynny’n teimlo’n bryderus ac roedd dros chwarter (29%) yn cyfaddef eu bod mewn dyfroedd dyfnion pan ddaeth yn fater o gefnogi eu plant yn ystod y cyfnod clo.

Mae Parent Talk yn cynnig gwybodaeth a chyngor rhad ac am ddim i rieni plant rhwng 0 a 19 oed gan Gweithredu dros Blant. Mae’r gwasanaeth sgwrsio cyfrinachol un-i-un ar-lein yn cysylltu rhieni’n uniongyrchol â hyfforddwr magu plant i gael cyngor ymarferol a chefnogaeth emosiynol heb farnu tra bo’r wefan yn ateb rhai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin am fagu plant. Mae hyfforddwyr magu plant yn weithwyr cefnogi, gwarchodwyr plant, ymarferwyr chwarae ac athrawon cymwysedig a phrofiadol.

Bethan Watts yw arweinydd tîm rhaglen Gweithredu dros Blant ar gyfer Parent Talk yng Nghymru ac mae’n rhan o dîm sy’n gallu ymateb yn Gymraeg.  Meddai: “Mae hwn yn wasanaeth mor bwysig ac arloesol i rieni a theuluoedd.  Mae’r pandemig wedi creu pob math o bwysau a gofynion ychwanegol a fydd ond yn cynyddu wrth i ni nesáu at y Nadolig, felly mae gallu darparu’r gwasanaeth hwn yn Gymraeg yn bwysig iawn.  Bydd yn galluogi rhieni Cymraeg eu hiaith i fynegi eu hunain yn fwy cyfforddus a chywir gan ein helpu i ddarparu gwell canlyniadau i deuluoedd.

“Gyda chynifer o famau a thadau mewn gwir angen am arweiniad, mae angen gwasanaeth fel Parent Talk nawr yn fwy nag erioed. Mae ein hyfforddwyr rhieni yno ar gyfer unrhyw gwestiynau sydd gan rieni – mawr neu fach. Gall unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth yn y cyfnod anodd hwn ac sydd eisiau gwneud hynny yn Gymraeg fynd i www.parent-talk.org.uk/wales

Ychwanegodd Lynn Giles, Rheolwr Parent Talk yn Gweithredu dros Blant: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu lansio’r gwasanaeth hollbwysig hwn yn Gymraeg.  Mae dros 20% o boblogaeth Cymru yn siarad Cymraeg ac mae’n hanfodol bod rhieni’n gallu cyfleu eu pryderon a’u gofidiau yn Gymraeg.  Mae lansio’r gwasanaeth dwyieithog hwn yn tanlinellu ein hymrwymiad parhaus i’r iaith Gymraeg ac rydym yn falch iawn y gallwn ei gynnig ar yr adegau mwyaf heriol hyn.

“Mae’r pandemig wedi achosi argyfwng i famau, tadau a phlant ar raddfa na welwyd mo’i thebyg o’r blaen, gyda rhieni’n teimlo eu bod yn cael eu llethu heb y gefnogaeth arferol gan ffrindiau a theulu, nag unrhyw sicrwydd ar gyfer y dyfodol. Bydd angen cymorth ychwanegol ar nifer enfawr o blant dros y misoedd nesaf ac mae rhieni’n dweud wrthym nad ydynt yn gwybod ble i droi. Wrth i’r argyfwng iechyd fynd heibio, mae angen i ni nawr droi ein sylw at y creithiau y mae’r coronafeirws wedi’u gadael ar deuluoedd sy’n cael trafferth gyda realiti newydd sbon – gyda llawer yn galaru ar ôl colli anwyliaid, ac eraill yn poeni am eu swyddi a’u dyfodol.  Mae Parent Talk yma gyda chefnogaeth ymarferol ac emosiynol ac rydw i wrth fy modd ei fod nawr ar gael yn Gymraeg.”

Dywedodd Victoria Atkins, Gweinidog Diogelu Llywodraeth y DU: “Mae’r mesurau llymach i reoli lledaeniad y coronafeirws yn golygu y gallai rhieni a phlant ledled Cymru deimlo’n fwy agored i niwed ac wedi’u hynysu oddi wrth gymorth.  Mae prosiectau arloesol fel Parent Talk yn cynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i’r rheini a allai fod yn ei chael hi’n anodd.  Gyda chefnogaeth y llywodraeth, bydd Gweithredu dros Blant yn gallu parhau i ddarparu’r gwasanaeth hanfodol hwn i rieni a phlant yn ystod y cyfnod heriol hwn.”