A A English | Cymraeg

Canlyniad y Refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd, 29/06/16 [C/Ll/GI/A]

Yn dilyn y refferendwm am yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i bob ymdrech gael ei gwneud i amddiffyn a hyrwyddo hawliau plant. Mae Plant yng Nghymru a chyrff ymbarel plant eraill o bedair cenedl y Deyrnas Unedig yn galw ar lywodraethau a’r Undeb Ewropeaidd:

  • i amddiffyn hawliau plant a phobl ifanc;
  • i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystyrlon mewn penderfyniadau a fydd yn siapio dyfodol y DU a’r UE ac
  • i liniaru unrhyw effaith negyddol sydd gan y canlyniad ar blant, pobl ifanc a theuluoedd o wledydd Ewropeaidd eraill sy’n byw yn y DU ar hyn o bryd.

Mae gwaith Plant yng Nghymru yn seiliedig ar yr hawliau a ymgorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC), ynghyd ag ethos i weithio ar y cyd â phartneriaid ledled Ewrop fel aelodau gweithgar y rhwydwaith eiriolaeth Ewrop-gyfan, Eurochild.

O dan Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, mae gan blant a phobl ifanc yr hawl i gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Cadarnhaodd y DU y Confensiwn ym 1991.  Gan hynny mae rhwymedigaeth ar lywodraethau i sicrhau bod yr hawliau hyn yn cael eu gwireddu i’r holl blant yn y DU ac i gefnogi cydweithrediad rhyngwladol i wireddu hawliau plant ledled y byd. Hefyd pasiodd Llywodraeth Cymru Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.

Er bod pobl ifanc ledled y DU yn gallu priodi, ymuno â’r lluoedd arfog a bod mewn cyflogaeth amser llawn, cafodd pobl ifanc 16 a 17 oed eu hamddifadu o’r hawl i leisio eu barn ym mhenderfyniad pwysicaf y cyfnod diweddar – penderfyniad y bydd ganddo ganlyniadau pell-gyrhaeddol ar gyfer eu dyfodol nhw. Ledled y DU adroddir bod 75% o’r etholwyr 18-24 oed wedi pleidleisio i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Er mwyn cael dinasyddion gweithgar sy’n cymryd diddordeb, mae’n hanfodol bod pob llywodraeth yn mynd ati i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar unwaith i atal ymddieithrio a difreinio posibl. Rhaid iddynt sicrhau bod pob penderfyniad polisi a deddfwriaeth a wneir o hyn ymlaen yn helpu i ymdrin â phryderon y bobl ifanc hyn. Mae’n holl bwysig nawr bod lleisiau pob plentyn a pherson ifanc yn cael eu clywed yn uchel ac yn eglur ar adeg mor hanfodol i lunio dyfodol ein gwlad, ac yn wir yr UE.

Bydd rhaid aros i weld effaith hirdymor y penderfyniad hwn ar deuluoedd Ewropeaidd sydd wedi ymgartrefu yng Nghymru ac yn rhannau eraill o’r DU. Ond bu adroddiadau yn barod o ddinasyddion yn dioddef camdriniaeth hiliol a senoffobig. Nid oes lle i droseddau casineb yn ein cymdeithas ac mae’n gwbl annerbyniol. Rhaid i’r neges hon gael ei cyfathrebu’n eang, yn eglur ac yn bendant. Dylai fod gan bob plentyn y cyfle i dyfu’n hapus, yn iach ac yn hyderus – a chael eu cydnabod yn ddeiliaid hawliau unigol.

Mae pleidlais etholwyr y DU i ymadael â’r UE yn agos cyfnod o ansicrwydd ac ansefydlogrwydd ar ddwy ochr y Sianel. Er y caiff sylw ei hoelio’n amlwg ar sicrhau’r marchnadoedd a sefydlogi’r economi, mae Eurochild yn dadlau bod rhaid i’n harweinwyr gwleidyddol ymdrin hefyd ag anghydraddoldeb ac anfoddhad cynyddol yn ein cymdeithasau. Mae Plant yng Nghymru a’n rhwydweithiau aelodau yn cytuno’n gyfan gwbl â’r farn hon fel y mae ein partneriaid Plant yn yr Alban, Plant yng Ngogledd Iwerddon a Plant Lloegr. Mae lefelau peryglus o raniadau cymdeithasol i’w gweld ledled Ewrop. Mae hyn yn wenwynig i’n democratiaethau. Os yw gwleidyddion o ddifrif ynglŷn â phontio’r rhaniad hwnnw, rhaid i hawliau plant a’r frwydr yn erbyn tlodi plant fod yn ganolog i hynny.

O ran rhoi terfyn ar dlodi plant a hybu llesiant plant, gwyddom yn fras beth sy’n gweithio. Gallwn gymharu a gwrthgyferbynnu perfformiad ledled gwledydd, a nodi polisïau ac arferion effeithiol. Mae’r Undeb Ewropeaidd ei hun wedi dogfennu’r dadansoddiad hwn mewn fframwaith polisi, ei Recommendation on Investing in Children, sydd wedi denu cytundeb ar draws cymdeithas sifil, academyddion a llunwyr polisi. Gwyddom fod angen ymagwedd hirdymor, sy’n rhoi sylw cytbwys i adnoddau ariannol a darpariaeth gwasanaethau. Yn hanfodol, mae angen i blant gael eu cydnabod fel asiantau newid, nid yn dderbynwyr goddefol cymorth.

Ble bynnag y bydd y cyd-drafodaethau yn ein harwain, plant a phobl ifanc sydd â’r gyfran bwysicaf yn nyfodol ein gwledydd. Nid dinasyddion y dyfodol yw plant, ond dinasyddion presennol a byddant yn wynebu canlyniadau penderfyniadau nad oes ganddynt ddim neu ychydig o ddylanwad drostynt. Mae’n bryd i wleidyddion o bob plaid uno o amgylch pwrpas moesegol cyffredin sef rhoi terfyn ar dlodi plant a gweithio tuag at wireddu hawliau plant. Dim ond wedyn y byddwn yn adeiladu cymdeithasau wir gynhwysol lle bo gan bawb gyfle cyfartal i wireddu eu potensial.

Cysylltu:

I ddysgu rhagor am ein gwaith neu i drefnu cyfweliad, cysylltwch â Catriona Williams OBE ar catriona.williams@childreninwales.org.uk  neu ffoniwch 029 2034 2434.

Nodiadau:

  1. Plant yng Nghymru yw’r corff ymbarel cenedlaethol dros bobl sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru.  Ein nod craidd yw cyfrannu at wneud Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn realiti yng Nghymru. Gallwch weld manylion ein gwaith yn www.childreninwales.org.uk/our-work/ .
  2. Gallwch weld canlyniadau llawn y refferendwm o wefan y Comisiwn Etholiadol.