Ysgrifennwyd gan Mike Mainwairing, Swyddog Hyffordi, Plant yng Nghymru
Croestoriadoldeb
Dydy pobl ifanc ddim yn dod mewn pecynnau taclus, gydag un mater. Maent yn cario beichiau aml-wahaniaethu a gormesai gyda nhw, fel hil, rhywioldeb, rhyw, anabledd, tlodi ac ati. Gall hyn fod yn anodd i bobl ifanc ddelio gyda.
Pobl Dduon LHDTC+ 'lives matter'
Mater mawr arall ein hamser yw'r mudiad 'Black Lives Matters'. O'r cychwyn, roedd lleisiau LHDTC+ wrth galon y mudiad. Fe’i sefydlwyd gan dair merch Dduon, Alicia Garza, Patrisse Cullors ac Opal Tometi, lle mae dwy ohonynt yn uniaethu yn 'queer'. Yn ogystal â dynion du heterorywiol yn cael eu lladd gan yr Heddlu, mae pobl dduon 'Trans' hefyd wedi marw yn nalfa'r heddlu. Mae angen mwy o fodelau rôl LHDTC+ du ar gyfer ein pobl ifanc.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am faterion mae pobl ifanc LHDTC+ yn wynebu, beth am fwcio eich hun lle ar ein hyfforddiant ar 28 Mehefin? Mae'r hyfforddiant yn cynnwys hunaniaeth, materion y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, terminoleg a'r gefnogaeth y gall pobl ifanc ei chynnig a ble i ddod o hyd i gymorth a chyngor arbenigol.