Linc3
Mae grŵp Linc 3 yn cefnogi swyddogion y trydydd sector sy’n gweithio ym maes cynllunio gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Nod y grŵp yw rhoi’r cyfle i swyddogion o’r trydydd sector wella gwybodaeth, cynnig cefnogaeth a dealltwriaeth gilyddol a thrafod materion er mwyn gwella eu gwaith o fewn partneriaethau plant a phobl ifanc. Mae’r rhwydwaith hefyd yn bwriadu rhoi safbwynt cenedlaethol i swyddogion, a chyfleoedd i lobio ar y cyd, gan hybu manteision cydweithredu dros Gymru gyfan. Amcanion y grŵp yw:
- Lledaenu ymchwil, gwybodaeth ac arfer gorau.
- Trafod goblygiadau gweithredu polisïau cenedlaethol mewn perthynas â phlant a phobl ifanc.
- Nodi meysydd pryder cyffredin a chytuno ar y dulliau gorau o gymryd camau, yn lleol ac yn genedlaethol.
- Hyrwyddo a chefnogi aelodau’r rhwydwaith wrth gydweithredu a chydweithio.
- Gweithio’n gydweithredol mewn meysydd diddordeb cyffredin.
- Datblygu mecanweithiau i ymgynghori a chyfranogi â grwpiau a rhwydweithiau eraill.
- Hybu cryfder a rôl swyddogion y Sector Gwirfoddol a gweithio tuag at gydnabyddiaeth a chynaladwyedd.
- Uno’n harbenigedd a’n meddwl er budd cyrff sector gwirfoddol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc.
- Creu agenda am drafodaeth i ddylanwadu ar lywodraeth ganolog, llywodraeth leol, ac ymarferwyr, cyrff a darparwyr eraill.
Aelodaeth
Mae’r grŵp yn cynnwys aelodau allweddol sy’n cael eu nodi gan bob Cyngor Gwirfoddol Sirol, ac mae’n bosibl y gofynnir i aelodau eraill Cynghorau Gwirfoddol Sirol fynychu. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu hwyluso gan Plant yng Nghymru a’u cadeirio gan aelod o’r grŵp sy’n cael ei enwebu. Mae’r agenda yn cynnwys siaradwyr gwadd i hysbysu, cynghori neu ymgynghori â’r grŵp.
Manylion Cyswllt
Am fwy o wybodaeth am y rhwydwaith hwn cysylltwch â Sarah Thomas, Swyddog Datblygu, Ffôn: 029 20342434, e-bost: sarah.thomas@childreninwales.org.uk.
Newyddion
Datganiad i’r WasgDatganiad i’r Wasg
PolisiPolisi
HyfforddiantHyfforddiant
DigwyddiadauDigwyddiadau
AdnoddauAdnoddau
Nid oes eitemau newyddion sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Nid oes datganiadau i’r wasg sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Nid oes polisïau sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
There are no upcoming training events relating to this subject.
There are no upcoming events relating to this subject.
Nid oes adnoddau sy'n ymwneud â’r pwnc hwn.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks